Gweithdy Amgueddfa

Gwers Ysgol Fictoraidd: Ymweld ag Ysgol Maestir

🔍 Darganfod ac Archwilio

Darganfyddwch y gwahaniaeth rhwng ysgolion yn oes Fictoria ac ysgolion heddiw drwy gymryd rhan mewn gwers gydag athro Fictoraidd llym! Sut beth fyddai bod yn ddisgybl mewn ysgol Fictoraidd? Bydd cyfle i’ch dysgwyr gael blas ar y profiad yn y gweithdy chwarae rôl ymdrochol hwn.

✏️ Cymryd rhan

Eisteddwch wrth eich desg mewn Ysgol Fictoraidd wreiddiol. Byddwch yn cael gwersi darllen, ysgrifennu a rhifyddeg, ac yn profi sut beth oedd diwrnod ysgol yn y cyfnod Fictoraidd. Bydd gwybodaeth y disgyblion yn cael ei phrofi gyda chwestiynau ac atebion hefyd!

ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon

Mae athrawon oes Fictoria yn fwy llym nag athrawon heddiw, ac maen nhw’n gallu bod yn eithaf caled. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiad hwn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.

Uchafswm o 30 disgybl.

Argymhellir ein Gweithdai Dangos a Dweud yn Sain Ffagan - Maestir: Ysgol Fictoraidd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 ac iau.

Adnoddau: 

Ysgol Fictoraidd yng Nghymru: elyfr i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. 

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Ysgol Maestir

Disgyblion tu allan Ysgol Maestir

Disgyblion yn Ysgol Maestir

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk