Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac archwilio
Sut ydyn ni’n gwybod cymaint am fywydau ein cyndeidiau filoedd o flynyddoedd yn ôl?
Dewch i ddatgloi cyfrinachau’r gorffennol yn y gweithdy archaeoleg rhyngweithiol yma sy’n archwilio bedd o Oes yr Haearn.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon yn gyfle i nodi sut y gallwn ddysgu am y gorffennol trwy dystiolaeth uniongyrchol a thystiolaeth anuniongyrchol, beth yw archaeoleg, sut mae cloddio safle, beth sydd yn y safle claddu a hefyd beth sydd heb oroesi.
I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3424
Adnoddau:
Cymru yn Oes yr Haearn - Bywyd Bob Dydd y Celtiaid: elyfr i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cymdeithasau dynol yn gymleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Bywyd Bob Dydd Y Celtiaid - Adnodd rhad ac am ddim sy'n cefnogi'r gweithdy yma.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk