Gweithdy Amgueddfa

Cynefin | Ein Cymru

🔍  Darganfod ac Archwilio

Oes mwy i Gymru na glo a chennin Pedr? Archwiliwch ‘Oriel Cymru…’ i ddarganfod yr ateb! Gallwch ymchwilio a darganfod sut mae hanes, diwylliant a chymdeithas wedi siapio ein ‘cynefin’.

✏️ Cymryd rhan

Bydd y disgyblion yn gweld gwrthrychau o’r gorffennol cyn cael cyfle i rannu pa wrthrychau sy’n cynrychioli eu ‘cynefin’ nhw orau. Byddan nhw’n cael datganiadau am Gymru ac yna bydd gofyn iddyn nhw ddod o hyd i wrthrychau sy’n gwrth-ddweud neu’n cefnogi eu datganiadau. 

ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon

Mae gan ‘Oriel Cymru...’ arddangosfeydd am Drychineb Aberfan a sawl enghraifft o weddillion ysgerbydol o Gymru hynafol. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r pynciau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus. 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Mae cymdeithasau dynol yn gymleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu  

Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu 

Y Celfyddydau Mynegiannol  

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg. 

Iechyd a Lles 

Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. 

Oriel Cymru

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk