Gweithdy Amgueddfa

Medicus – Meddyginiaeth Rufeinig

🔍 Darganfod ac Archwilio

Archwiliwch hanes hynod (a ffiaidd!) meddyginiaeth Rufeinig, o foddion llysieuol i bwythau gwallt ceffyl, a hyd yn oed llifio braich neu goes i ffwrdd! Dewch i ddysgu am rôl duwiau Rhufeinig wrth wella cleifion yn y sesiwn chwarae rôl ryngweithiol a bywiog hon.

✏️ Cymryd Rhan

Dewch i weld ‘Medicus’ Isca, y meddyg Rhufeinig oedd yn gyfrifol am drin milwyr yn y Gaer, a dysgu sut fyddai’r Medicus wedi trin eich pen tost, dannoedd, anafiadau a mwy!

 ℹ️ Am y Sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon yn trafod amrywiaeth o anafiadau, salwch a thriniaethau – mae’n gallu bod braidd yn waedlyd!

⁠Mae’r sesiwn ‘Medicus’ wedi’i datblygu yn benodol ar gyfer disgyblion ysgol gynradd, ond rydyn ni’n deall efallai bydd rhai disgyblion (ac athrawon hefyd!) yn ei chael hi’n anodd trafod anafiadau a gwaed.

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!

Hyd: 45 munud
Dyddiadau: 6 Hydref - 14 Tachwedd 2025
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk