Cymru... | Adnoddau Athrawon i'r Orielau Sain Fagan
🔍 Darganfod ac archwilio
Nod yr adnodd hwn dan arweiniad athro ar gyfer ysgolion yw helpu athrawon ac arweinwyr grŵp eraill i drefnu ymweliad llwyddiannus. Mae’r orielau yn amrywiol, ac yn cwmpasu pob math o bynciau gwahanol o fewn y cwricwlwm.
ℹ️ Ynglŷn â'r Adnodd hwn
Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd yn y pecyn er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n cynnwys cysylltiadau i arddangosfeydd arall o fewn yr Amgueddfa ac hefyd i’r adeiladau hanesyddol.
Mae'r oriel hefyd yn hygyrch yn ddigidol sy'n golygu y gellir defnyddio'r adnodd hwn oddi ar y safle yn ogystal ag ar y safle yn Sain Ffagan.
Mae yna pecyn ar gyfer y tair oriel newydd yn Sain Ffagan – Cymru, Byw a Bod, a Gweithdy.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cymdeithasau dynol yn gymleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.