Cerdded gyda’r Rhufeiniaid
Darganfod ac Archwilio
Archwiliwch amffitheatr a barics trawiadol Isca gyda thywysydd Rhufeinig! Gallwch chi ychwanegu’r gweithdy hwn at eich taith ysgol fel sesiwn wedi’i hwyluso ychwanegol.
Cymryd Rhan
Dewch i grwydro’r olion Rhufeinig! Rhowch gynnig ar orymdeithio ac ymosod yn yr amffitheatr fel byddai’r milwyr Rhufeinig wedi gwneud bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a sefyll yn y barics lle bydden nhw wedi bwyta, yfed a chysgu!
Am y Sesiwn hon
Cynhelir y sesiwn hon yn yr awyr agored, heb fawr o gysgod rhag yr elfennau, a dim lle i eistedd a gorffwys. Er bod y sesiwn hon wedi’i chynllunio ar gyfer disgyblion ysgol gynradd, mae’n bosib bydd y tir anwastad yn peri trafferth i ddisgyblion â phroblemau symudedd.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!
Cwricwlwm
Dyniaethau:
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk