Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni am weithdy ymarferol lle byddwch yn archwilio casgliadau hanes natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gan ddefnyddio ein casgliadau trafod a theimlo, bydd dysgwyr yn gallu archwilio amrywiaeth enfawr o wrthrychau hanes natur gan gynnwys ffosiliau, gemau, pryfed a mwy!
Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i drin gwrthrychau amgueddfa go iawn o'n casgliad trafod a theimlo hanes natur. Byddan nhw’n rhoi cynnig ar ddosbarthu’r gwrthrychau hyn ac yn ymgymryd â rôl curadur i greu eu hamgueddfa dosbarth eu hunain.
Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys trafod a theimlo gwrthrychau hanes natur. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych chi unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn ni'n gwneud ein gorau i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.
Y Dyniaethau
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk