Gwersyll Rhufeinig (Gweithdy Rhithiol)
Darganfod ac Archwilio
Sut beth oedd bod yn Filwr Rhufeinig bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl? Dewch i ddarganfod o ble ddaeth y milwyr, pa sgiliau oedd eu hangen arnyn nhw, a sut aeth y fyddin Rufeinig ati i drechu’r llwythau Celtaidd lleol. Dysgwch am fywydau’r milwyr oedd yn byw yn Isca – Caerllion heddiw – ac archwilio arfau ac arfwisgoedd trawiadol yr Ymerodraeth Rufeinig.
Cymryd Rhan
Hyfforddwch fel Rhufeiniwr! Yn ystod y sesiwn hon, cewch chi gyfle i ddysgu gorchmynion Lladin a gorymdeithio yn eich unfan yn eich ystafell ddosbarth.
Am y Sesiwn hon
Mae'r sesiwn Gwersyll Rhufeinig yn trafod goresgyniad ac yn cynnwys synau uchel, gan gynnwys ail-greu gweiddi ar faes y gad. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!
I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3546. E-bost: learning.romans@museumwales.ac.uk
Adnoddau:
Cwricwlwm
Dyniaethau: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Oed: 8-11
Amcanion dysgu:
- Dysgu sut fywyd oedd gan filwyr newydd yn y Fyddin Rufeinig, gan roi sylw i’w gwahanol gefndiroedd, sut oedden nhw’n hyfforddi a beth oedd y disgwyliadau.
- Adolygu’r ffyrdd y caiff y digwyddiadau a’r profiadau hyn eu gweld, eu dehongli a’u cynrychioli.
- Ystyried y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng teimladau’r Rhufeiniaid yn y fyddin a’r Prydeinwyr oedd yn cael eu concro.
- Ystyried beth allwn ni ei ddysgu o gyfnod y Rhufeiniaid i wella cymdeithas heddiw.
Gwersyll Rhufeinig: Gweithdy Rhithiol
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk