Adnodd Dysgu

Y Gylchred Dwr Mewn Bag

Gall dŵr gyfnewid rhwng solid, hylif a nwy yn dibynnu ar ei dymheredd Dwr hylifol rydym yn gweld gan amlaf – dyma beth ddefnyddiwn ar gyfer golchi, glanhau, coginio, tyfu planhigion ac, wrth gwrs, yfed. Mwy neu lai popeth!

Mae mwyafrif o ddŵr ar y Ddaear yn y cefnforoedd, gan gynnwys y capiau iâ a ffynonellau eraill megis afonydd, llynnoedd a chymylau. Mae cyfanswm y dŵr ar y Ddaear fwy neu lai yn sefydlog dros amser, ond mae union leoliad y dŵr ar y Ddaear bob amser yn newid. Er enghraifft, rhai dyddiau mae'r tywydd yn sych a rhai dyddiau mae’r glaw yn syrthio’n drwm! Gelwir y symudiad dŵr hwn o amgylch y blaned yn “gylchred y dŵr”.

Ni all ddwr symud o amgylch y blaned heb egni gwres o’r haul. Wrth i’r haul cynhesu dwr mae’r dwr yn anweddu, yn newid o hylif i nwy o’r nwy anwedd dwr. Wrth i’r anwedd dwr godi, mae’n oeri ac yn cyddwyso yn ol mewn i ddiferion man o ddwr hylif. Os ddaw digon o’r diferion yma at eu gilydd, gallant ffurfio cymylau, ac os ydy digon o gymylau’n ffurfio bydd y dwr yn syrthio yn ol I’r ddaear fel glaw. Mae’r broses wedyn yn ail-ddechrau, ac yn parhau am byth!

 Archwiliwch y gylchred ddŵr yn yr ystafell ddosbarth gyda'r arbrawf hwn!

Cwricwlwm

GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.   
Mae chwilfrydedd am wyddoniaeth a thechnoleg yn ein hannog i ofyn cwestiynau am y byd o’n cwmpas. Wrth gael eu hannog i ddefnyddio rhesymeg, tystiolaeth a chreadigrwydd, caiff dysgwyr eu cefnogi i ymchwilio i wybodaeth wyddonol, a’i chymhwyso, er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae’r byd yn gweithio. Bydd datblygu a phrofi modelau defnyddiol hefyd o gymorth iddyn nhw wneud synnwyr o gymhlethdod y byd.

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Trwy sylwi ar amrywiaeth pethau byw, a sut maen nhw’n ymwneud â’u hamgylchedd, gall dysgwyr ddod i ddeall sut mae’r rhain wedi esblygu dros gyfnodau sylweddol o amser. Mae angen amodau ac adnoddau penodol ar bob peth byw er mwyn goroesi, a gall fod yn rhaid iddyn nhw gystadlu ag organebau eraill er mwyn gwneud hynny. Mae pobl yn rhan o’r byd hwn o bethau byw, a gall ein penderfyniadau a’n gweithredoedd, ynghyd â’r broses ddetholiad naturiol, gael effaith sylweddol ar amrywiaeth bywyd. Mae gwybod am strwythurau a swyddogaethau pethau byw yn galluogi dysgwyr i ddeall sut mae’r rhain yn tyfu, datblygu ac atgenhedlu’n llwyddiannus.

Adnoddau