Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac Archwilio
Darganfyddwch y golygfeydd heddychlon, y synau a’r arogleuon wrth i chi archwilio amgylchoedd heddychlon Castell Sain Ffagan. Cymerwch ysbrydoliaeth o’r amgylchedd a llunio cerdd am y profiad.
✏️ Cymryd Rhan
Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn taith dywys sy’n archwilio eu hamgylchedd. Yna bydd gofyn i’r disgyblion fynd ati’n greadigol i ysgrifennu barddoniaeth.
ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon yn yr awyr agored. Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer disgyblion cynradd, ond gallai disgyblion â phroblemau symudedd gael trafferth ar y tir anwastad. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.
Nodwch bod y gweithdy yma yn un awyr agored. Gwisgwch dillad ag esgidiau addas i’r tywydd os gwelwch yn dda.
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.
Iechyd a Lles
Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Gerddi Castell Sain Ffagan
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk