Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Sut beth oedd plentyndod yng Nghymru yn ystod Oes Fictoria?
Camwch yn ôl mewn amser i brofi diwrnod ym mywyd y plant oedd yn byw yn ardaloedd glofaol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dewch i gael cip ar fywyd yn y gwaith, y cartref a'r ysgol, a darganfod pa mor wahanol yw bywyd i blant heddiw.
Dewch i brofi diwrnod arferol mewn ysgol o Oes Fictoria, bwthyn glöwr a phwll glo.
Cewch gropian drwy bwll glo, darganfod sut beth oedd bywyd yn y cartref ac ymgolli mewn gwers ysgol o Oes Fictoria.
Mae O'r Pwll i'r Iard Chwarae yn trafod themâu y gwaith, y cartref a'r ysgol i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hefyd yn trin themâu iechyd ac anafiadau ac yn cyfeirio rhywfaint at farwolaeth a chosb yn yr ysgol.
Sesiwn ryngweithiol yw hon sydd ag elfennau corfforol. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Iechyd a Lles: Mae sut fyddwn ni'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio ein personoliaeth ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Mae ieithoedd yn ein cysylltu ni.
Amcanion dysgu:
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650