Gweithdy Amgueddfa

Golchi Dillad yng Nghymru gyda Beti Bwt

🔍 Darganfod ac Archwilio

Pa mor wahanol oedd diwrnod golchi dillad yn y dyddiau cyn dŵr rhedeg a thrydan? Bydd Beti Bwt yn dangos i chi mor wahanol oedd pethau, drwy fynd â chi gam wrth gam drwy’r broses. Helpwch Beti i sgwrio, pwnio a gwasgu dillad cyn eu rhoi allan i sychu.

✏️ Cymryd Rhan

Bydd y disgyblion yn gweld y broses olchi dillad gam wrth gam, cyn dyddiau peiriannau golchi a thrydan. Byddan nhw’n cael rhoi cynnig ar ddefnyddio mangl a doli i helpu i olchi blŵmers nain!

ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon

Bydd y sesiwn yn digwydd yn ein gofod addysg pwrpasol. Mae’n sesiwn gorfforol gyda chymaint o gyfleoedd i gymryd rhan â phosib, ond mae rhywfaint o’r offer yn fawr ac ni all plant bach eu defnyddio. Os oes gennych unrhyw bryderon am y sesiwn hon, cysylltwch â ni. 

Diwrnod Golch Beti Bwt - ilyfr i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.

Uchafswm o 30 disgybl.

Hyd: 45 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.

Amser Golchi - ilyfr i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.

 Louise Palmer, Ynyshir, Rhondda, wringing clothes
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk