Gweithdy Amgueddfa

Llên Gwerin a'r Mabinogion | Ymweld â Llys Canoloesol Llywelyn

🔍 Darganfod ac Archwilio

Sut beth oedd byw mewn Llys Brenhinol neu gastell yn Oes y Tywysogion? Darganfyddwch pa adloniant oedd ar gael i bobl 800 mlynedd yn ôl. Defnyddiwch eich sgiliau artistig a mynegiannol, yn ogystal â’ch dychymyg, i greu noson o adloniant y byddai Tywysog Llywelyn a’i lys yn ei mwynhau.

✏️ Cymryd Rhan

Bydd y disgyblion yn camu i ran storïwr cynorthwyol yn Llys Llywelyn, a gyda chymorth eu cyfeillion, yn creu stori i ddifyrru’r tywysog a’i lys. 

ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon

Bydd y sesiwn yn digwydd yn Llys Llywelyn. Mae’r daith gerdded i’r adeilad ar hyd llwybrau cadarn yn bennaf, tan i chi gyrraedd yr adeilad, lle mae’n mynd ychydig yn anwastad.  Mae’r adeilad yn ofod agored mawr a all fod yn swnllyd gyda llawer o atsain. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw bryderon am y profiad hwn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.

Argymhellir ein Gweithdai Dangos a Dweud yn Sain Ffagan - Llys Llywelyn: Llys o Oes y Tywysogion ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 ac iau.

Adnoddau:

Oes y Tywysogion: i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Culhwch & Olwen
Llys Llywelyn
Llys Llywelyn
Llys Llywelyn
Llys Llywelyn
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk