Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Beth mae Cymru yn ei olygu i chi? Sut mae ein hamgylchedd a'n cymunedau yn llunio pwy ydym ni?
Yn y gweithdy ysbrydoledig hwn, bydd dysgwyr yn archwilio’r syniad Cymreig o gynefin drwy orielau celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Drwy archwilio’r gweithiau celf a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, bydd disgyblion yn archwilio eu cynefin personol eu hunain, hunaniaeth Gymreig a beth mae’n ei olygu i fod yn ddinesydd byd-eang yng Nghymru a’r byd.
Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn o leiaf dau weithgaredd creadigol a fydd yn eu hannog i archwilio eu cynefin personol eu hunain, myfyrio ar sut mae ein hamgylchedd naturiol yn cyfrannu at ein hymdeimlad o hunaniaeth ac ystyried eu rôl fel dinasyddion yng Nghymru a'r byd.
Yn y gweithdy hwn byddwn yn archwilio themâu perthyn a'r argyfwng hinsawdd. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych chi unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn ni'n gwneud ein gorau i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus!
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Y Dyniaethau
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk