Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni am weithdy rhithwir i ddysgu am heddwch, protest a gweithredaeth yng Nghymru trwy hanes. Trwy’r gweithdy cydweithredol hwn rhwng Amgueddfa Cymru, Y Deml Heddwch, a Chanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, bydd eich dysgwyr yn creu eu ‘Cynllun Gweithredu’ eu hunain i ddod yn ‘Gwneuthurwyr Newid dros Heddwch’. Dewiswch achos damcaniaethol i sefyll drosto, neu un go iawn, unrhyw le o heddwch byd, i ddim mwy o frocoli ar fwydlen yr ysgol, a helpwch eich dysgwyr i ddeall eu hawliau, y cyfreithiau, a hanes, protestio yng Nghymru.
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio ar gyfer disgyblion 11-14 oed, ond gellir ei addasu ar gyfer dysgwyr iau neu hŷn. Holwch wrth archebu.
Dyniaethau
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk