Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac Archwilio
Ymunwch â ni mewn gweithdy llawn dop o STEM i ddarganfod hanes a gwyddoniaeth ffrwydradau yn y pyllau glo. Dysgwch sut mae adweithiau cemegol tanddaearol yn effeithio ar ddiogelwch mewn pyllau glo. Archwiliwch sut mae mater fel nwy a llwch yn adweithio i greu ffrwydrad, a datblygiad hanesyddol y diwydiant glo yng Nghymru.
✏️ Cymryd Rhan
Yn ystod y gweithdy hwn a fydd wedi’i hwyluso, bydd y disgyblion yn gweld arbrofion sy’n dangos sut roedd ffrwydradau tanddaearol yn digwydd, a pha mor ddinistriol gallen nhw fod.
ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon yn dangos ffrwydradau llwch, sy’n gwneud synau mawr a fflachiadau golau pan fyddan nhw’n cael eu cynnau. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.
Yn addas ar gyfer 11 mlynedd +
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn siapio ein bywydau.
Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600