12 Mis Allan: Cymru a Streic y Glowyr 1984/85 (Gweithdy Rhithiol)
🔍 Darganfod ac Archwilio
Ym mis Mawrth 1984, aeth 25,000 o lowyr yn ne Cymru ar streic. Wnaethon nhw ddim dychwelyd i’r gwaith am 12 mis.
Dewch i ddysgu mwy am Streic y Glowyr 1984/85 – un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes glofaol Cymru.
Sut beth oedd bywyd glöwr a'i deulu yn ystod y streic? Pwy oedd ar streic? Pa grwpiau wnaeth helpu’r glowyr oedd ar streic?
✏️ Cymryd Rhan
Dewch i gwrdd ag aelod o Dîm Addysg Big Pit yn y gweithdy rhithwir hwn a chymryd rhan mewn taith rithwir o’r diwydiant glo yng Nghymru.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae 12 Mis Allan yn trafod themâu iechyd ac anafiadau ac mae'n cyfeirio rhywfaint at farwolaeth.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r pynciau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau: Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Iechyd a Lles: Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ein safon byw, a bywydau eraill.
Amcanion Dysgu
• Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gymhwyso’r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am hanes Streic y Glowyr 1984/85.
• Meddwl yn greadigol i ail-fframio a datrys problemau drwy ymchwilio hanes cymhleth Streic y Glowyr 1984/85.
• Datblygu dealltwriaeth o’u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’u byd, ddoe a heddiw, drwy ddysgu am hanes protest yng Nghymru.
• Deall a defnyddio eu cyfrifoldebau a hawliau dynol a democrataidd, drwy ddysgu mwy am y wleidyddiaeth tu ôl i Streic y Glowyr 1984/85.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650