Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i adeiladu’r newid! Mewn gweithdy ymarferol bydd y disgyblion yn dysgu am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt morol yng Nghymru a thu hwnt, a'r peryglon sy'n ei wynebu drwy ddefnyddio sbesimenau amgueddfa, astudiaethau achos a gwaith ymchwil gwyddonwyr amgueddfa. Byddan nhw wedyn yn defnyddio'u dychymyg a briciau LEGO® i ddylunio, adeiladu, gwerthuso a rhannu datrysiadau irai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cynefinoedd morol, gan gynnwys llygredd a newid hinsawdd.
Mae'r Ddaear yn newid yn gyflym dan ddylanwad gweithredoedd dynolryw a'n heffaith ar fyd natur. Cynlluniwyd y gweithdy er mwyn cael y disgyblion i feddwl yn greadigol am y datrysiadau a'r sgiliau angenrheidiol i daclo heriau mwyaf ein hoes, a'u paratoi at y dyfodol.
Mae'r gweithgaredd yn bosib diolch i bartneriaeth rhwng yr Amgueddfa Hanes Natur a'r LEGO Group, fel rhan o'u rhaglen Build the Change. Rhaglen gynaliadwy yw hon sy'n rhoi llais i blant a chyfle iddyn nhw fynegi eu dyhead a'u syniadau am ddyfodol gwell.
LEGO, the LEGO logo, the Minifigure, and the Brick and Knob configuration are trademarks and copyrights of the LEGO Group. ©2025 The LEGO Group. All rights reserved.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Y Dyniaethau
Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk