Adnodd Dysgu

Portreadau o Weithwyr Diwydiannol Cymru | Portreadau Gweithwyr Francis Crawshay

Mae'r adnodd hwn yn archwilio casgliad unigryw o bortreadau a grëwyd yn y 1830au ac sy'n dangos gweithwyr diwydiannol o dde Cymru.

Y casgliad yn llawn

Oriel fer yn sôn am y casgliad

Cwricwlwm

Y DYNIAETHAU | Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Bydd taith y dysgwyr trwy’r Maes hwn yn ysgogi ymholi a darganfod, wrth iddyn nhw gael eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffordd greadigol a newydd o feddwl, a thrwy hyn gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau, a sut i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd eang. Gall meddylfryd o’r fath fod o gymorth i ddysgwyr ddeall profiadau pobl a’r byd naturiol yn well.

Mae ymholi yn fwy nag ymarferiad academaidd; mae’n galluogi myfyrio sydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y cyflwr dynol. Yn ei dro, gall hyn ychwanegu ystyr at fywydau’r dysgwyr, a chyfrannu at eu hymdeimlad o le a bydolwg.