Adnodd Dysgu
Mytholeg Rufeinig: Duwiau, Arwyr, & Bwystfilod
Dysgwch ba mor bwysig oedd crefydd a mythau i’r Rhufeinwyr a oresgynnodd Gymru bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl!
Archwiliwch ddetholiad o wrthrychau anhygoel o’n casgliadau a gweld sut oedd y Rhufeiniaid yn plethu eu credoau drwy bob rhan o’u bywydau – o fathu ceiniogau gyda delweddau o dduwiau Rhufeinig arnyn nhw, i adrodd straeon drwy fosaigau ar lawr eu hystafelloedd bwyta.
Porwch drwy’r llyfr cyfan neu ddefnyddio’r mynegai i ddysgu mwy am ffigwr penodol.
↓ Fideo | Cwymp Phaeton ↓
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Oed: 8-11
'Perseus' (cerfluniaeth efyddaid) - Frederick Pomeroy (1898)
'Phaeton driving the Chariot of the Sun' (marble bas-relief) - John Gibson