Adnodd Dysgu
Grym y Gweld: tirlun Cymreig lliwgar gan Mary Lloyd Jones
ℹ️ Ynglŷn â'r adnodd hwn
Dyma un o’r gwersi yn Grym y Gweld sy’n edrych ar dirluniau. Mae’n ffocysu ar Pwerdy Ceunant a baentiwyd yn 2019 gan Mary Lloyd Jones.
Crëwyd yr adnodd hwn mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru.
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Y Dyniaethau
- Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw'n cael eu llwyio gan weithredoedd a chredoau pobl.
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.