Adnodd Dysgu

Eich Cynefin: Canllaw ymchwil hanes

ℹ️ Ynglŷn â'r adnodd hwn

Ar draws Amgueddfa Cymru mae gennym weithdai sy'n ymchwilio i sut mae hanes wedi siapio ein 'cynefin'.  Os ydych chi wedi bod i'r gweithdai hynny ai peidio, mae'r adnodd hwn yn mynd i ddangos rhai camau syml i chi ymchwilio i'ch hanes eich hun ar-lein, eich cynefin eich hun. Gall yr ymchwil hon eich helpu i wneud cysylltiadau â'ch gorffennol a rhoi cysylltiad cryfach i chi â'ch cynefin.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Mae cymdeithasau dynol yn gymleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.