Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae ymweliad ag amgueddfa neu oriel gelf yn cynnig amgylchedd cyfoethog a diogel i gydnabod a chefnogi ein hiechyd meddwl. Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddarganfod llonyddwch, creadigrwydd a chysylltiad personol yn y gweithdy rhyngweithiol hwn. Yn orielau celf ysbrydoledig yr Amgueddfa, mae’r gweithdy hwn yn annog dysgwyr i arafu, archwilio eu synhwyrau ac ymgysylltu â’r casgliadau mewn ffordd feddylgar.
Yng nghwmni un o’n hwyluswyr, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau meddylgar yn yr orielau celf. Bydd cyfle i ddatblygu strategaethau meddwl gweledol a rhoi cynnig ar weithgareddau meddylgar creadigol mewn amgylchedd hollol unigryw.
Bydd ein hwyluswyr yn annog dysgwyr i ymgysylltu â’u synhwyrau. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Sgiliau sy'n hanfodol i'r pedwar diben
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk