Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Archwiliwch hanesion cudd rôl Cymru yn y broses o greu'r Ymerodraeth Brydeinig. O'r diwydiannau a arweiniodd at ehangu’r ymerodraeth i weithiau celf sy'n adlewyrchu balchder a phrotest yn wyneb grym imperialaidd, bydd dysgwyr yn archwilio ehangder casgliad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y gweithdy rhyngweithiol hwn. Bydd dysgwyr yn darganfod sut mae gwladychiaeth wedi effeithio ar gymdeithasau ledled y byd a'i heffaith ar y byd naturiol. Drwy wrthrychau, straeon ac ymatebion creadigol, byddwn yn archwilio etifeddiaeth gymhleth yr ymerodraeth a sut mae’n parhau i effeithio ar Gymru a'r byd ehangach heddiw.
Bydd dysgwyr yn archwilio sut mae amgueddfeydd yn mynd i'r afael â'r materion cymhleth hyn drwy ailgynllunio arddangosfa amgueddfa. Byddant yn cael eu hannog i feddwl am sut olwg fydd ar eu harddangosfa, y testun y byddant yn ei ddefnyddio a'r hanesion gwladychol y byddant yn eu portreadu drwy'r gwrthrychau.
Mae'r gweithdy hwn yn trafod themâu hiliaeth, caethwasiaeth a gwladychiaeth. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych chi unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn ni'n gwneud ein gorau i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus!
Y Dyniaethau
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk