Adnodd Dysgu

Byw a bod... | Adnoddau Athrawon i'r Orielau Sain Fagan

🔍 Darganfod ac archwilio

Yn yr oriel hon gallwch foddhau eich chwilfrydedd naturiol am fywydau bob dydd pobl eraill, ar draws mil o genedlaethau. Rydym yn adrodd straeon pobl trwy eu geiriau eu hunain – lle bynnag y bo'n bosibl – ac drwy'r gwrthrychau y buont yn eu gwerthfawrogi.

ℹ️ Ynglŷn â'r Adnodd hwn

Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd yn y pecyn er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n cynnwys cysylltiadau i arddangosfeydd arall o fewn yr Amgueddfa ac hefyd i’r adeiladau hanesyddol.

Mae'r oriel hefyd yn hygyrch yn ddigidol sy'n golygu y gellir defnyddio'r adnodd hwn oddi ar y safle yn ogystal ag ar y safle yn Sain Ffagan.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Mae cymdeithasau dynol yn gymleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.