Adnodd Dysgu

Gweithdy... | Adnoddau Athrawon i'r Orielau Sain Fagan

🔍 Darganfod ac archwilio

Oriel na welwyd mo’i thebyg yw hon – dathliad o sgiliau gwneuthurwyr ar draws y canrifoedd, a chyfle i chi roi cynnig ar rai o’r crefftau eich hun.

ℹ️ Ynglŷn â'r Adnodd hwn

Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd yn y pecyn er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n cynnwys cysylltiadau i arddangosfeydd arall o fewn yr Amgueddfa ac hefyd i’r adeiladau hanesyddol.

Mae'r oriel hefyd yn hygyrch yn ddigidol sy'n golygu y gellir defnyddio'r adnodd hwn oddi ar y safle yn ogystal ag ar y safle yn Sain Ffagan.

Mae yna pecyn ar gyfer y tair oriel newydd yn Sain Ffagan – Cymru, Byw a Bod, a Gweithdy.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Mae cymdeithasau dynol yn gymleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Gweithdy
Mosaig Rhufeinig
Crochenwaith
carreg gerfiedig