Gweithdy Rhithiol

Gweithdai Rhithwir Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion

I ddathlu 20 mlynedd o Broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, rydyn ni'n cynnal pedwar gweithdy rhithwir fydd yn edrych ar baentio, newid hinsawdd, y Chwyldro Diwydiannol a llawer mwy! 

Bydd y sesiynau ar Microsoft Teams. Mae'r sesiynau ar gyfer disgyblion Cam Cynnydd 3 (8-11).

Bydd sesiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mae'r sesiynau Saesneg yn dechrau am 9:30yb. Mae'r sesiynau Cymraeg yn dechrau am 11:00yb.

Gan fydd pob sesiwn yn adeiladu ar y sesiwn flaenorol, rydyn ni'n argymell i chi ddod i'r pedair sesiwn. Mae manylion pob sesiwn i'w gweld isod.
Bydd y sesiynau ar Microsoft Teams. Mae'r sesiynau ar gyfer disgyblion Cam Cynnydd 3 (8-11). Cofiwch wirio’r cyfeiriad e-bost wrth archebu gan fydd yr holl ddolenni'n cael eu hanfon i'r cyfeiriad hwn.

Cymraeg: Archebu tocyn

Saesneg: Archebu tocyn

Gallwch chi lawrlwytho ein Canllaw Gweithdy Rhithiol am ragor o wybodaeth hefyd. 

Sesiwn 1 | 14/01/26 (Saesneg 9:30am | Cymraeg 11:00am)

Darlunio fel Artist, Meddwl fel Gwyddonydd! 

Bydd y sesiwn yn edrych ar ddarluniau botanegol, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd gwyddonol a sut oedd artistiaid ar un adeg yn wyddonwyr. Byddwn ni hefyd yn edrych ar waith celf a bywyd Cedric Morris, a greodd lawer o blanhigion a'u peintio mewn ffyrdd unigryw.

Sesiwn 2 | 21/01/26 (Saesneg 9:30am | Cymraeg 11:00am)

Paentio gyda'n Gilydd: Creu campwaith botanegol ⁠ 

Yn yr ail sesiwn bydd y disgyblion yn edrych ar wahanol rannau’r blodyn, cyn creu darn celf eu hunain gyda blodau.

Sesiwn 3 | 4/03/26 (Saesneg 9:30am | Cymraeg 11:00am)

Cliwiau Hinsawdd: O'r gorffennol i'n dyfodol ⁠ 

Bydd y sesiwn yn defnyddio delweddau hanesyddol, gwaith celf a sbesimenau planhigion ac anifeiliaid diflanedig o Amgueddfa Cymru i edrych ar ddechrau newid hinsawdd. ⁠Byddwn ni hefyd yn edrych ar ddata gwyddonol project Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion ac yn trafod beth mae’n ei olygu.

Sesiwn 4 | 11/03/26 (Saesneg 9:30am | Cymraeg 11:00am)

Cyfrannu at newid: Addewid dros y Blaned ⁠ 

Sesiwn i drafod addewid hinsawdd Amgueddfa Cymru a beth mae pob amgueddfa ledled Cymru yn ei wneud i leihau ei ôl troed carbon. ⁠Gall y disgyblion drafod a chreu addewidion hinsawdd digidol eu hunain.  

Hyd: 45 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.
Gweithdai Rhithwir Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Logo