Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Newid Eich Hinsawdd! Grymuso ysgolion i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhao
ℹ️ Ynglŷn â'r adnodd hwn
Newid Hinsawdd yw un o broblemau mwyaf ein hoes. Fel addysgwr, mae gennych gyfle unigryw i arfogi plant a phobl ifanc â’r wybodaeth i greu newid.
Yn yr adnodd hwn fe welwch enghreifftiau o safleoedd Amgueddfa Cymru ar draws y wlad, ynghyd â gweithgarwch yn cael ei arwain gan blant a phobl ifanc Cymru.
Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau y gallwch chi eu gwneud yn yr ysgol sydd wedi’u hysbrydoli gan y straeon hyn. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn eich helpu i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach.
Darluniau ac animeiddiadau gan Nikki Pontin
https://www.nikkipontin.com
@nikki_pontin
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Y Dyniaethau
Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.