Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac Archwilio
Ar 15 Mehefin 1910, roedd tyrfa fawr, gyffrous a swnllyd yn ffarwelio’n llon â llong wrth iddi adael Basn y Rhath yn nociau Caerdydd. Yr SS Terra Nova oedd y llong, ac roedd hi’n mynd tua’r de — i’r Antarctig. Ar ei bwrdd roedd Capten Robert Falcon Scott ac aelodau o Alldaith Antarctig Prydain. Eu nod oedd archwilio’r Antarctig a bod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Dysgwch am y fordaith hon a pham ariannodd y Cymry ran fawr ohoni.
✏️Cymryd rhan
Bydd eich dosbarth yn darganfod cysylltiadau rhwng Cymru â’r alldaith Antarctig hon. Dysgwch am y criw a beth oedd ei angen arnynt i baratoi am yr Antarctig. Byddwch yn archwilio gwrthrychau go iawn, llythyrau, a chofnodion dyddiadur wrth i chi ddarganfod pwy gyrhaeddodd Begwn y De yn gyntaf.
ℹ️Ynglŷn â’r sesiwn hon
Mae’r gweithdy’n archwilio themâu marwolaeth ac anafiadau wrth i ni edrych ar dynged aelodau’r criw. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r pynciau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae'r byd o'n cwmpas yn llawn pethau byw sy'n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Dyniaethau
Mae ymholiad, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, y presennol a'r dyfodol.
Iechyd a Lles
Mae sut rydym yn prosesu ac yn ymateb i'n profiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles emosiynol.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600