Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Sut oedd bywyd yn wahanol i lowyr a pherchnogion y pyllau glo yng Nghymru?
Camwch yn ôl mewn amser a dysgu am fywydau pedwar dyn a menyw o orffennol diwydiannol Cymru. Fe gewch archwilio themâu mudo, rôl glo stêm Cymru, peryglon y diwydiant glo a datblygiad diwydiannol Cymru.
Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n ymgolli ym mywydau’r bobl oedd yn rhan o ddiwydiant glo Cymru drwy wisgoedd pwrpasol yn seiliedig ar gofnodion hanesyddol o Gymru.
Bydd disgyblion yn dysgu drwy wisgo i fyny a bod yn lowyr a pherchnogion.
Mae Glowyr a Pherchnogion Glo yn trafod themâu iechyd ac anafiadau ac mae'n cyfeirio rhywfaint at farwolaeth.
Sesiwn ryngweithiol yw hon sydd ag elfennau corfforol. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Dyniaethau: Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Iechyd a lles: Mae sut fyddwn ni'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio ein personoliaeth ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
Amcanion Dysgu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650