Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Sut oedd streiciau glowyr yng Nghymru yn effeithio ar gymunedau glofaol?
Darganfyddwch fwy am brofiad streiciau glowyr yng Nghymru, ac edrych ar yr effaith a gawson nhw ar lowyr, eu teuluoedd a bywyd mewn cymunedau diwydiannol.
Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n berson o gymuned lofaol ac yn edrych ar sut y gallai streic yn eich pwll glo lleol fod wedi effeithio arnoch chi.
Bydd disgyblion yn dangos empathi ac yn dysgu am yr heriau y mae cymuned gyfan yn eu hwynebu yn ystod streic.
Mae Streiciau Glowyr yng Nghymru yn trafod themâu iechyd ac anafiadau ac mae'n cyfeirio rhywfaint at farwolaeth.
Sesiwn ryngweithiol yw hon sydd ag elfennau corfforol. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Dyniaethau: Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Iechyd a lles: Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ein safon byw, a bywydau eraill.
Amcanion Dysgu
• Egluro'r syniadau a'r cysyniadau wrth edrych ar hanes streiciau glowyr yng Nghymru.
• Meddwl yn greadigol i ail-fframio a datrys problemau drwy ymchwilio i hanes cymhleth effaith streiciau glowyr yng Nghymru ar y gymuned.
• Datblygu dealltwriaeth o'u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'u byd, ddoe a heddiw, drwy ddysgu am hanes protest yng Nghymru.
• Deall a defnyddio eu cyfrifoldebau a hawliau dynol a democrataidd, drwy ddysgu mwy am gymunedau glofaol Cymru.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650