Gweithdy Amgueddfa

Gwen John: Hardd a Hynod

🔍 Darganfod ac Archwilio

Gwen John yw un o artistiaid pwysicaf yr 20fed ganrif. Mae ei gwaith mewn casgliadau ledled y byd, ac yma yn Amgueddfa Cymru mae’r casgliad mwyaf a pwysicaf. ⁠ 

Datblygodd Gwen gôd unigryw i'w helpu i gofnodi lliwiau ac arlliwiau mewn brasluniau a phaentiadau. Dyw'r côd byth wedi cael ei ddatrys... Allwch chi ddatrys y côd?

✏️Cymryd Rhan

Yn y gweithdy ymarferol hwn byddwn ni'n darganfod sut oedd Gwen John yn defnyddio lliw yn arddangosfa fawr Gwen John: Hardd a Hynod. Mae'r arddangosfa yn casglu ynghyd frasluniau a darluniau sydd prin yn cael eu gweld i ddangos ei phroses greadigol. 

Bydd y disgyblion hefyd yn edrych ar theori lliw Gwen, a'i chôd arbennig, yn ein gofod gweithgareddau celf arbennig cyn mynd ati i ddylunio a datblygu eu paled lliw eu hunain. 

 ℹ️ Am y Sesiwn hon

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: 07/02/26 - 28/06/26
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Celfyddydau Mynegiannol

Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.

Mae ymateb a myfyrio, fel artist a chynulleidfa, yn rhan allweddol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Mae’n cyfuno sgiliau a gwybodaeth, ac yn defnyddio synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Iechyd a Lles 

Mae sut fyddwn ni'n prosesu ac ymateb i'n profiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a lles emosiynol.

Y Dyniaethau 

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu 

Mae ieithoedd yn ein cysylltu ni.

Mathemateg a Rhifedd 

Mae'r system rifau yn cael ei defnyddio i gynrychioli a chymharu'r berthynas rhwng rhifau a niferoedd.

Mae algebra yn defnyddio symbolau i fynegi strwythur perthynas fathemategol.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg 

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.

Mae dylunio a pheirianneg yn cynnig dulliau technegol a chreadigol i ateb gofynion cymdeithas.

Gwen John Hardd a Hynod
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk