Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac Archwilio
Ydych chi byth wedi edrych ar Lleuad? Pam mae hi i weld yn newid? Bydd y disgyblion yn dysgu am weddau'r Lleuad, dychmygu'r daith i'r wyneb, a darganfod sut brofiad fyddai ymweld, a beth mae astronotiaid wedi'i ganfod yno.
✏️ Cymryd Rhan
Cyfle i greu esboniad syml o weddau'r Lleuad, astudio a thrafod ffotograffau teithiau Apollo pan gafodd Carreg Leuad yr Amgueddfa ei chasglu, a thrin a thrafod meteorynau go iawn a cherrig eraill sydd i'w canfod ar y Lleuad! Defnyddiwch gyfeirnodau syml i ganfod samplau o'r Lleuad, fel astronotiaid Apollo.
ℹ️ Am y Sesiwn hon
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!
Amgueddfa’r Lleuad
Y gwanwyn hwn, bydd Amgueddfa'r Lleuad gan artist y DU Luke Jerram, yn trawsnewid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda cherflun saith metr disglair sy'n cynnwys delweddau manwl o NASA ynghyd â thrac sain hudolus. Mwy o wybodaeth.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau.
Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk