Gweithdy Amgueddfa

Lleuad, Mapiau a Meteorynnau

🔍 Darganfod ac Archwilio

Pam fod y Lleuad i weld yn newid ei siâp? Beth wnaethon ni ei ddysgu o deithiau Apollo? Bydd y disgyblion yn dysgu am weddau'r Lleuad, gweld beth wnaeth yr astronotiaid ei ganfod ar yr wyneb, ac archwilio samplau o gerrig a meteorynnau go iawn er mwyn dod i gasgliad am arwyneb y Lleuad.

✏️ Cymryd Rhan

Dewch yn wyddonydd planedau! Defnyddiwch esboniad syml i ddeall gweddau'r Lleuad, cyn mesur craterau ar fapiau o'r Lleuad a defnyddio'r data i gyfrifo eu maint a'u lleoliad. Byddwch chi’n trin a thrafod meteorynnau o gasgliadau'r Amgueddfa ac arbrofi gyda chreu craterau wrth ddysgu am yr heriau oedd astronotiaid Apollo eu hwynebu wrth wneud eu harbrofion. 

ℹ️ Am y Sesiwn hon

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!

Amgueddfa’r Lleuad

Y gwanwyn hwn, bydd Amgueddfa'r Lleuad gan artist y DU Luke Jerram, yn trawsnewid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda cherflun saith metr disglair sy'n cynnwys delweddau manwl o NASA ynghyd â thrac sain hudolus. Mwy o wybodaeth.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.

Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau.

Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.

Y lleuad
Llun o graterau ar y lleuad
Gofodwr Apollo 12 ar y lleuad
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk