Caerdydd, Metropolis Glo a Llongau
Ail Ardalydd Bute
Yn 1862, allforiwyd 2,000,000 o dunelli metrig o lo o Ddociau Caerdydd; erbyn 1913 roedd y cyfanswm hwn wedi codi i 10,700,000 tunnell fetrig. Y cyfnod hwn oedd yr oes aur cyn dirwasgiad y 1930au.
Caerdydd, heb os, oedd tref ffyniannus Prydain ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd. Am ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y tunelli o gargo a drafodwyd yn y porthladd yn drech na thunelledd Llundain neu Lerpwl. Eto i gyd, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd '...two sloops trading to Bristol on alternate days' yn ddigon i drafod masnach Caerdydd! Beth fu'n gyfrifol am y trawsnewidiad hwn?
Twf y diwydiant haearn ym mlaenau cymoedd de Cymru fu'r sbardun gwreiddiol i ddatblygiad Caerdydd fel porthladd. Yn 1794, cwblhawyd
Camlas Morgannwg a gysylltai Caerdydd â Merthyr, ac yn 1798 adeiladwyd basn yn cysylltu'r gamlas â'r môr. Bu'r galw cynyddol am gyfleusterau doc priodol yn fodd i ddarbwyllo ail Ardalydd Bute, tirfeddiannwr mwyaf blaenllaw Caerdydd, i hyrwyddo'r gwaith o adeiladu Doc West Bute, a agorwyd ym mis Hydref 1839. Prin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf.Glo ddisodli haearn
O'r 1850au ymlaen, dechreuodd glo ddisodli haearn fel sylfaen diwydiannol de Cymru, pan ddechreuwyd cloddio gwythiennau dwfn Cwm Rhondda a Chwm Cynon. Ymhen dim o dro, glo rhydd de Cymru fyddai i gyflenwadau egni'r byd yr hyn yw olew heddiw, ac mor gynnar â 1862 câi 2 filiwn o dunelli metrig ei allforio. Agorwyd doc ychwanegol, yr East Bute, yn 1859, ond yn dilyn marwolaeth yr ail Ardalydd yn 1848 roedd ymddiriedolwyr Stad Bute yn orofalus ac yn gyndyn i fuddsoddi mewn cyfleusterau doc newydd.
Arweiniodd y rhwystredigaeth yn sgil y diffyg datblygu yng Nghaerdydd at agoriad dociau cystadleuol ym Mhenarth yn 1865 a'r
Barri yn 1889. Yn y pen draw, bu'r datblygiadau hyn yn gymhelliad i Gaerdydd weithredu a gwelwyd agor Doc y Rhath yn 1887, a Doc y Frenhines Alexandra yn 1907. Erbyn hynny, câi oddeutu 9 miliwn o dunelli metrig o lo y flwyddyn ei allforio, llawer ohono yn howldiau llongau cargo a oedd yn eiddo i berchnogion lleol.Cargoau o lo
Llong ager gyntaf Caerdydd oedd y llong fach Llandaff a adeiladwyd yn 1865, a hon oedd y gyntaf o fflyd o longau ager a dyfodd yn gyflym ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn 1910, roedd tua 250 o longau cargo a oedd yn eiddo i gwmnïau adnabyddus megis Cory, Morel, Radcliffe, Tatem a Reardon Smith, oll o Gaerdydd. Bob dydd, arferai penaethiaid y cwmnïau hyn gwrdd yn y
Gyfnewidfa Lo ysblennydd yn Sgwâr Mount Stuart er mwyn trefnu cargoau o lo ar gyfer eu llongau. Roedd y fasnach hon yn ei hanterth yn 1913, pan allforiwyd 10.7 miliwn o dunelli metrig o lo o'r porthladd.Rhyfel Byd Cyntaf
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd bri mawr ar y fasnach longau yng Nghaerdydd, ac yn 1920 roedd 122 o gwmnïau llongau mewn bod. Fodd bynnag, byrhoedlog fu'r cyfnod ffyniannus; roedd pwysigrwydd olew fel tanwydd llongau ar gynnydd ac ymhen dim o dro sicrhaodd telerau Cytundeb Versailles fod digonedd o lo iawn rhad yr Almaen ar gael ledled Ewrop. Erbyn 1932, pan oedd y dirwasgiad yn ei anterth, câi llai na 5 miliwn o dunelli metrig o lo ei allforio ac roedd dwsinau o longau a oedd yn eiddo i berchnogion lleol yn segur. Mewn gwirionedd, ni lwyddodd Caerdydd i ailgodi ar ei thraed wedi'r cyfnod o ddirwasgiad ac, er gwaethaf prysurdeb mawr y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gostwng fu hanes yr allforion glo, masnach a ddaeth i ben yn gyfan gwbl yn 1964.
Porthladd Caerdydd heddiw
Heddiw, mae pryd a gwedd porthladd Caerdydd yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ganrif yn ôl. Trawsffurfiwyd y glannau yn gyfan gwbl gan yr argae sy'n cronni afonydd Taf ac El'i, gan greu llyn dŵr croyw mawr. Bellach, saif fflatiau drudfawr lle yr arferai craeniau glo sefyll, a disodlwyd tafarnau garw'r gymdeithas forwrol gan fistros parchus. Dau ddoc yn unig, y Rhath a'r Frenhines Alexandra, a gaiff eu defnyddio, ac er eu bod yn ffynnu - diolch i'w diddordebau byd-eang - dim ond dau gwmni llongau sydd ar ôl.
Hyd heddiw, mae rhywfaint o fasnach mewn coed, olew, sgrap a chynwysyddion, ond mae'r dyddiau pan oedd y porthladd yn llawn llongau cargo dan orchudd o lwch glo wrth iddynt lwytho'r 'diemyntau du' a ddeuai o gymoedd de Cymru, wedi hen fynd heibio.
Darllen Cefndir
Cardiff and the Marquesses of Bute, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1981).
Cardiff Shipowners, gan J. Geraint Jenkins a David Jenkins. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1986).
Coal Metropolis: Cardiff, 1970-1914, gan Martin Daunton. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caerlŷr (1977).
sylw - (6)
I have just viewed a Who Do They Think They Are programme and the story of a man by the name of Power could be that of my Uncle. Power sailed on the Sheaflance No 142706 in 1927
Where should I go to check if Thomas Fennelly sailed to Argentina on any of the coal vessels of that time.
Thank you for your enquiry.
Lists of Cardiff coal exporters can be found in local trade directories which were issued by a variety of publishers in the period you are interested in. The directories that tend to be more complete in their coverage include: “The Cardiff Year Book” by A.S.Williams & R.F.Kewer-Williams, Cardiff (ceased publication after 1933), and “The Cardiff Directory” by the Western Mail Company (not published every year). The best collections of Cardiff directories are held by Cardiff Central Library (https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Libraries-and-archives/Find-a-library/Pages/Central-Library.aspx ) and by Glamorgan Archives (https://glamarchives.gov.uk ).
I hope that this information is useful to you.
Yours sincerely,
Jennifer Protheroe-Jones
Principal Curator - Industry
Dear Keith, thank you for your comment, we have not been able to find any images of the Rydal Hall in the collections. To assist us to search for an image of a similar vessel it would be useful to know if the Rydal Hall was a ship or a barque