The Great War: Britain’s Efforts and Ideals
Y project print mwyaf uchelgeisiol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfres lawn o brintiau The Great War: Britain’s Efforts and Ideals a gyflwynir yn yr arddangosfa hon. Cynhyrchwyd chwe deg chwech o brintiau fel propaganda artistig gan lywodraeth Prydain ym 1917, er mwyn ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela ac ailgynnau fflam yr ymdrech.
Cyfrannodd deunaw artist eu gwaith, gyda rhai o enwau mwyaf blaenllaw’r cyfnod – yn eu plith Augustus John, George Clausen a Frank Brangwyn.
Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.
Mae’r printiau wedi’u rhannu’n ddau bortffolio, ‘Delfrydau’ ac ‘Ymdrechion’. Cyfleu’r rhesymau dros frwydro, a gobeithion Prydain am y rhyfel oedd diben ‘Delfrydau’. Mae’n llawn delweddau dramatig a symbolaidd, fel Rhyddid y Moroedd a Buddugoliaeth Democratiaeth. Darlunio gwaith caled y bobl mae’r ail bortffolio, yr ‘Ymdrechion’ fyddai’n helpu Prydain i wireddu ei ‘Delfrydau’. Mae’r portffolio ‘Ymdrechion’ wedi’i rannu’n naw adran, pob un yn portreadu gweithgaredd neu thema wahanol.
Cynhyrchu ac Arddangos
Comisiynwyd y printiau gan Wellington House, adran o’r llywodraeth a sefydlwyd yn gyfrinachol i gynhyrchu propaganda. Rheolwr y prosiect oedd yr artist Thomas Derrick (1885-1954), a chyfarwyddwyd y broses argraffu gan yr artist a’r cyfrannwr F. Ernest Jackson (1872-1945). Avenue Press, Llundain, argraffodd y cyfan.
Talwyd yr artistiaid yn hael, gyda phob un yn derbyn £210 (tua £10,000 heddiw) a phosibilrwydd o freindaliadau ychwanegol o’r gwerthiant. Printiau cyfyngedig o ddau gant oedden nhw. Gwerthwyd y printiau ‘Ymdrechion’ am £2 2s 0d (£100) yr un, a phrintiau ‘Delfrydau’ am £10 10s 0d (£500).
Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.
Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf gan y Gymdeithas Celfyddyd Gain, Llundain, ym mis Gorffennaf 1917, cyn crwydro orielau celf rhanbarthol ledled Prydain. Aeth ar daith i Ffrainc ac America hefyd, lle cafodd y rhan fwyaf o’r portffolios eu harddangos a’u gwerthu.
Ymateb y Cyfnod i’r Printiau
“The very soul of the war is to be read in the set of sixty-six brilliant lithographs.”
(The Illustrated London News, 1917)
(The Illustrated London News, 1917)
Comisiynwyd y printiau hyn fel propaganda, gyda’r nod penodol o godi ysbryd y werin a dylanwadau ar farn y cyhoedd ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ym Mhrydain a thu hwnt. Ym 1917, wedi tair blynedd o frwydro ffyrnig a cholledion enbyd, roedd angen ffordd newydd ar y llywodraeth o gynnal cefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfel. Cynlluniwyd y printiau i atgoffa pobl o nod ac amcan y brwydro, ac er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dyletswydd gwladgarol.
Mae’n anodd gwybod pa mor llwyddiannus oedd y printiau fel arf propaganda. Cawsant eu cyhoeddi’n eang wedi’r arddangosfa gyntaf ym 1917. Roedd rhai newyddiadurwyr yn cefnogi’r achos, “To see these lithographs is a patriotic as well as an artistic duty” (Burton Daily Mail, 15 Chwefror 1918. Ond doedd ymateb pawb ddim mor bositif; “their efforts are in almost every instance sincere; yet the result is, on the whole, meagre and unsatisfying.” (The Daily Telegraph, 20 Gorffennaf 1917). Roedd yr ymateb cychwynnol yn America yn gadarnhaol ‘they have been a revelation to American Fifth Avenue art patrons, dealer, critics…They put up British prestige’. Llai na’r disgwyl, fodd bynnag, fu gwerthiant y printiau yno a gwnaeth y prosiect golled yn gyffredinol.
Lithograffi a Chlwb Senefelder
‘The most brilliant of the younger men are all now making remarkable lithographs…there is a genuine renaissance of the art’ (Joseph Pennell, 1914)
Techneg brintio sy’n seiliedig ar yr egwyddor nad yw olew a dŵr yn cymysgu yw lithograffi. Bydd yr artist yn defnyddio defnydd seimllyd i dynnu llun ar arwyneb llyfn – calchfaen fel arfer. Caiff inc ei rolio dros yr wyneb, fydd yn glynu at y darlun a ond nid at y rhannau llaith di-lun. Gosodir papur ar ben y garreg a’i roi drwy’r wasg. Gellir creu effeithiau gwahanol trwy ddefnyddio deunyddiau seimllyd amrywiol i ddarlunio, gan efelychu darlun sialc, pensil neu lun dyfrlliw. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o’r printiau hyn yn y dull ‘trosglwyddo’, gyda darlun ar bapur arbennig yn cael ei drosglwyddo i garreg, yn hytrach na gweithio arni’n uniongyrchol. Gyda lithograff lliw, bydd yr artist yn cychwyn gyda chynllun un lliw ar faen clo. I ychwanegu lliwiau eraill, rhaid defnyddio carreg wahanol ag arni’r inc newydd, ac argraffu un ar ben y llall.
Roedd llawer o’r artistiaid hyn yn aelodau o glwb Senefelder, clwb bychan a sefydlwyd ym 1908 er mwyn annog ac adfywio lithograffi fel cyfrwng artistig. Enwyd y clwb ar ôl yr Almaenwr a ddyfeisiodd y broses yn y ddeunawfed ganrif. Cynhyrchwyd y portffolio hwn mewn cyfnod pan oedd chwa newydd o ddiddordeb ym mhotensial artistig lithograffi.
Ideals
“To lose sight of Britain's ultimate ideals of freedom and democratic justice is to reduce the present war to nothing less than a carnival of carnage” (Burton Daily Mail, Feb 15, 1918)
Aeth deuddeg artist ati i greu lithograff lliw llawn ar gyfer yr adran hon. Roedd rhai, gan gynnwys Brangwyn ac F. Ernest Jackson yn feistri ar y grefft tra bod eraill, fel Clausen a Grieffenhagen, yn defnyddio’r dechneg am y tro cyntaf.
Trwy gyfrwng alegorïau a symbolaeth, mae portffolio Delfrydau yn cyfleu nod ac amcan y rhyfel. Yn draddodiadol, mae alegori wedi bod yn dechneg gyffredin yn y byd celf gyda ffigyrau chwedlonol neu hanesyddol yn cyfleu syniadau a chysyniadau ehangach. Mae ffigyrau a ffurfiau yn cynrychioli gwledydd a chysyniadau a theitl pob darn yn cyfeirio at neges ac ystyr y gwaith. Er nad oedd portreadau alegorïaidd yn ffasiynol yn y byd celf pan gynhyrchwyd y printiau yma, defnyddiwyd y dechneg fel arf propaganda i bwysleisio pwysigrwydd yr amcanion. Drwy wneud cysylltiadau mawreddog, nod y printiau oedd cyfiawnhau dulliau a gwirioneddau rhyfel i bobl gyffredin.
Er i lawer ganmol y project, roedd eraill yn beirniadu ‘Delfrydau’ am ei bortread rhamantaidd o’r rhyfel.
Making Soldiers
Darluniau ‘sy’n cyfleu ysbryd ein byddin newydd ifanc’ – dyna ddisgrifiad un newyddiadurwr o’r printiau hyn, sy’n dangos milwyr yn hyfforddi ac ar faes y gad. Mae’n debyg y dewiswyd Kennington i fynd i’r afael â’r pwnc hwn gan ei fod yntau wedi listio gyda 13eg Bataliwn (Kensington) Catrawd Llundain ac wedi ymladd ar Ffrynt y Gorllewin, Ffrainc, rhwng 1914 a 1915. Cafodd ei glwyfo a’i ryddhau am resymau meddygol ym 1915. Fel y rhan fwyaf o waith celf yn ystod cyfnod y rhyfel, nid portreadu’r gyflafan a’r drasiedi fawr oedd y nod. Yn hytrach, mae Kennington yn clodfori’r milwr cyffredin.
Ganed Kennington yn Chelsea, Llundain, yn fab i arlunydd portreadau amlwg. Astudiodd yn Ysgol Gelf Sant Paul, Ysgol Gelf Lambeth ac Ysgol City and Guilds. Cafodd ei benodi’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1917 a 1919 a rhwng 1940 a 1943, lle bu’n portreadu morwyr ac awyrenwyr.
Making Sailors
Mae lluniau Brangwyn yn adlewyrchu ei ddiddordeb yn y môr. Yn llawer o’i brintiau, mae wedi manteisio ar nodweddon lithograffi er mwyn creu printiau tebyg i frasluniau a darluniau. Cafodd Brangwyn ei ysgwyd i’r byw gan ddifodiant a dinistr rhyfel, yn enwedig yn Fflandrys, lle cafodd ei eni. Er na chafodd erioed ei benodi’n artist rhyfel swyddogol, cynhyrchodd lu o lithograffau ar gyfer achosion da.
Ganwyd Brangwyn yn Brugge, Fflandrys. Roedd ei dad o dras Eingl-Gymreig a’i fam yn hanu o Aberhonddu. Dychwelodd y teulu i fyw ym Mhrydain, ac erbyn iddo droi’n bymtheg, roedd Brangwyn yn astudio dan adain William Morris, y cynllunydd a’r sosialydd. Wrth iddo ennill ei blwyf fel paentiwr, ysgythrwr a lithograffydd, dechreuodd Brangwyn grwydro’r byd. Roedd eisoes yn adnabyddus dramor pan dderbyniodd y comisiwn hwn, ac yn aelod o Glwb Senefelder a hyrwyddai lithograffi fel cyfrwng.
Making Guns
Bu Clausen yn ymchwilio ar gyfer y printiau hyn yn Ffatri Ynnau Frenhinol Woolwich Arsenal, Llundain a oedd yn cynhyrchu arfau, bwledi a ffrwydron ar gyfer lluoedd arfog Prydain. Ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ffatri’n cyflogi tua 80,000 o bobl ac yn ymestyn dros 1,300 o erwau. Penodwyd Clausen yn artist rhyfel swyddogol ym 1917 ac oherwydd ei oed, bu’n cofnodi gweithgareddau gartref yn hytrach nag ymweld â maes y gad.
Ganwyd Clausen yn Llundain yn fab i George Clausen Senior, paentiwr o fri o dras Danaidd. Aeth i’r Coleg Celf Brenhinol ac ysgolion celf South Kensington, yna’r Académie Julian ym Mharis. Ef oedd un o sylfaenwyr y New English Art Club a chafodd ei ethol yn Athro Arlunio'r Academi Frenhinol ym 1904. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1927.
Building Ships
Muirhead Bone oedd yr artist rhyfel swyddogol cyntaf. Roedd yn enwog am greu darluniau â manylder ffotograffig ac ymhlith darlunwyr amlycaf Prydain. Yn ogystal â chofnodi’r rhyfel ar y Ffrynt, treuliodd Bone gyfnod ar lannau’r Clyde yn yr Alban, yn cofnodi bwrlwm y diwydiant adeiladu llongau yno. Byddai’n clymu llyfr nodiadau i’w law er mwyn braslunio. Mae’r printiau yn dangos camau gwahanol y broses adeiladu, yn ogystal â golygfeydd o’r iard, un ohonynt o ben craen. Dywedodd un gohebydd fod ei gyfres, ‘delights in the intricacies of scaffolding and mechanical contrivances’. Ymddangosodd y lluniau hyn yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ryfel hefyd, The Western Front, cyfrol II, 1917.
Brodor o Glasgow oedd Bone, ac astudiodd yn ysgol gelf y ddinas honno. Ymgartrefodd yn Llundain ym 1901. Bu’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1916 a 1918, ac yn artist swyddogol y Morlys rhwng 1939 a 1946. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1937.
Building Aircraft
Dyma printiau Nevinson yn ennyn cryn edmygedd pan gawsant eu harddangos am y tro cyntaf. Yn ôl un beirniad, ‘he contrives to make the visitor almost giddy’, a dywedodd un arall bod ganddo rym arbennig, ‘the power of expressing sensations rather than visual facts’.
Astudiodd Nevinson lithograffi ym 1912 dan law Ernest Jackson. Ar ddechrau’r rhyfel, aeth ati i wirfoddoli fel gyrrwr ambiwlans, profiad a gafodd effaith ddirdynnol arno. Fe’i penodwyd yn artist rhyfel swyddogol ym 1917. Mae’r printiau hyn yn dilyn y broses o adeiladu awyren, o greu a chydosod y darnau i’r hedfan yn y pen draw, ac yn Weldiwr Asetylen a Cydosod darnau gwelwn gyfraniad cynyddol menywod i’r diwydiant.
Ganed Nevinson yn Llundain, yn fab i’r newyddiadurwr a’r gohebydd rhyfel Henry Nevinson. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade ac ym Mharis. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid rhyfel enwoca’r cyfnod. Er cymaint oedd dylanwad mudiadau avant-garde celfyddyd Ewrop megis Ciwbiaeth a Dyfodoliaeth arno, mabwysiadodd arddull mwyfwy realistig wrth iddo geisio cyfleu’r gwrthdaro.
Work on the Land
Ar 15 Mai 1917, ysgrifennodd Rothenstein at Ernest Jackson, ‘I hope to have the 5th drawing finished early this week and the last next week. I will then come up to town and do what is needful to the stones’. Nid oedd yn hapus gyda rhai o’i weithiau cynnar, gan ddweud fod y llinellau’n ymddangos yn fain a phur symol. Penderfynodd argraffu rhai mewn lliw browngoch yn hytrach na du. Mae’r gweithiau hyn yn syml a chynnil, ac yn wrthgyferbyniad i holl ddwndwr a moderniaeth rhyfel a welir yn llawer o brintiau eraill y gyfres. Mae’r printiau hyn yn dwyn i gof ddelweddau o lafurwyr gwledig a oedd yn gyffredin iawn mewn tirluniau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwy na thebyg iddynt gael eu darlunio yn ardal Stroud, Swydd Gaerloyw, lle’r oedd Rothenstein yn byw.
Ganed Rothenstein yn Bradford i deulu Almaenig-Iddewig. Dysgodd ei grefft yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a’r Académie Julian, Paris. Yn ogystal â chael ei benodi’n artist rhyfel swyddogol Byddin Prydain ym 1917-1918, bu’n artist i fyddin Canada ym 1919. Ef oedd Pennaeth y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1920 a 1935, ac fe’i urddwyd yn farchog ym 1931.
Tending the Wounded
Mae’r printiau hyn yn dilyn taith milwr clwyfedig o’r Ffrynt, trwy’i driniaeth a’i adferiad nôl adref. Yn wreiddiol, roedd y trefnwyr wedi gofyn i’r artist a’r cyn-lawfeddyg Henry Tonks (1867-1937), ymateb i waith y gwasanaethau meddygol. Fodd bynnag, teimlai Tonks nad oedd y papur a ddarparwyd yn addas ar gyfer darlunio, a gwrthododd y cynnig. Comisiynwyd Shepperson i fynd i’r afael â’r pwnc wedyn, ac aeth ati i gynhyrchu cyfres a gafodd dderbyniad gwresog iawn.
Ganwyd Shepperson yn Beckenham, Caint, ac roedd yn artist amlgyfrwng llwyddiannus yn gweithio mewn dyfrlliw a phen ac inc, darluniau a lithograffau. Wedi rhoi’r gorau i astudio’r gyfraith, dilynodd gyrsiau celf yn Llundain a Pharis. Mae’n enwog am y darluniau doniol a gyfrannodd i gylchgrawn Punch rhwng 1905 a 1920.
Women's work
Mae’r printiau hyn yn cofnodi cyfraniad allweddol menywod i’r ymdrech ryfel. Pan alwyd ar ragor o ddynion i ymuno â’r brwydro ym 1915, roedd gofyn i fenywod ysgwyddo’r baich. Cododd lefelau cynhyrchu yn y ffatrïoedd a’r ffermydd wrth i fenywod wneud gwaith fyddai’n draddodiadol yn waith y dyn. Er bod cryn dipyn ohono’n waith llafurus a pheryglus, cafodd llawer o fenywod ryddid newydd, a chyfle i ddangos eu dawn a’u gallu mewn meysydd a reolwyd cyn hynny gan ddynion. Anfonwyd Hartrick i wneud brasluniau yn y fan a’r lle, ac mae llawer o’r cyfansoddiadau yn fwriadol eu hystum a’u hosgo – yn lluniau ‘gwneud’. Delweddau propaganda ydyn nhw heb arlliw o’r caledi a’r peryglon a wynebai’r menywod o ddydd i ddydd.
Ganwyd yr artist a’r darlunydd Hartrick yn India a’i fagu yn yr Alban cyn mynd ati’n wreiddiol i astudio meddygaeth. Wedi troi at gelf, mynychodd Ysgol Gelf Slade, Llundain, ac ysgolion celf Paris, gan arddangos yn Salon Paris 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Senefelder ym 1909. Trodd ei law at ddysgu hefyd, gan gyhoeddi’r gyfrol ganllaw Lithography As A Fine Art ym 1932.
Transport by Sea
Cyflawnodd y llynges fasnachol dasgau allweddol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys cefnogi llongau’r llynges, cludo milwyr a chario cyflenwadau hanfodol. Roedd yn beryg bywyd, a mawr fu colledion y fflyd. Yn llun Pears gwelwn y llongau yn eu holl fanylder.
Ganwyd Pears yn Pontefract, Swydd Efrog, ac er ei lwyddiant fel darlunydd a lithograffydd, mae’n bennaf enwog am ei forluniau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn swyddog â chomisiwn gyda’r Morlu Brenhinol, a bu’n gweithio fel artist morol swyddogol rhwng 1914 a 1918, ac eto ym 1940. Cafodd hefyd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd posteri, gan greu gweithiau i gwmnïau fel trenau tanddaearol Llundain.
Cadwraeth
Cafodd holl brintiau eu trin yn Stiwdio Cadwraeth Papur Amgueddfa Cymru. Cadwyd y printiau yn eu mowntiau a’u ffolderi gwreiddiol ers eu cyflwyno i’r Amgueddfa ym 1919.
Roedd llawer o’r printiau wedi brychu (yn cynnwys smotiau browngoch) ac yn fudr. Mae hyn yn arwydd o bapur mewn cyflwr gwael. Byddai’n parhau i ddirywio heb ei drin.
Gwnaed cais am gyllid i benodi cadwraethydd papur dan hyfforddiant i weithio ar y prosiect hwn am bum mis. Mae’r holl brintiau wedi’u golchi, eu gwasgu, eu trwsio a’u hailfowntio. Bellach, mae pob un yn y cyflwr gorau posibl a bydd y mowntiau newydd yn darparu amodau storio rhagorol. Bydd y gwaith cadwraeth hwn yn sicrhau y byddant ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol.
Cynhaliwyd ymchwil i’r math o bapur a ddefnyddiwyd ar gyfer y printiau hefyd. O’r dyfrnod ‘HOLBEIN’, gwelsom taw cwmni Spalding a Hodge, gwerthwyr a chynhyrchwyr papur â melinau papur yng Nghaint, oedd yn gyfrifol amdano.
sylw - (2)