Taith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad 1958
Digwyddiad rhyngwladol, llawn lliw a chyffro yw Taith Baton y Frenhines drwy wledydd y Gymanwlad, ond yng Nghymru fach y dechreuodd ar ei thaith.
Mae’n ddathliad gweledol o undod ac amrywiaeth gwledydd y Gymanwlad – arwydd o rym chwaraeon i uno pobl o bob lliw a llun sydd wedi dod yn ragarweiniad cyfarwydd a phoblogaidd i agoriad swyddogol y Gemau.
Ers cynnal Gemau’r Ymerodraeth am y tro cyntaf ym 1930, mae Gemau’r Gymanwlad yn ymfalchïo yn ei hymrwymiad i’r ddelfryd Olympaidd o gyfeillgarwch, undod a chwarae teg, ac yn hybu perthynas dda rhwng gwledydd y Gymanwlad.
Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad oedd yr enw swyddogol ym 1958, gyda Chaerdydd yn llwyfannu’r digwyddiad rhwng 18 a 26 Gorffennaf, a dyma’r tro cyntaf i Daith Baton y Frenhines fel rhan o’r ymgorfforiad o heddwch a chytgord trwy gyfrwng chwaraeon.
I gofio llwyddiant gemau’r brifddinas bydd y baton gwreiddiol yn rhan o’r seremoni eleni, wrth i Daith Glasgow 2014 gyrraedd Caerdydd ar 24 Mai ar y cyntaf o saith diwrnod yng Nghymru.
Y baton
Er bod gwreiddyn y syniad yn aneglur o hyd, credir taw yn niwedd y 1950au y dechreuodd Pwyllgor Trefnu’r Gemau ystyried cynnal taith faton. Penodwyd cyn swyddog o’r Llynges frenhinol yn Drefnydd Anrhydeddus y digwyddiad – yr Is Gapten Bill Collins a gydlynodd Taith y Fflam Olympaidd yn Llundain ym 1948. Dewiswyd tîm o drefnwyr lleol glew gan gymdeithas athletau pob gwlad fyddai’n croesawu’r baton i gynorthwyo Collins yn ei waith.
Dyluniwyd baton gilt arian ac enamel 1958 gan y cyn filwr a’r gemydd o Gaerdydd, y Cyrnol Roy Crouch, Cadeirydd Pwyllgor Medalau’r Gemau. Yn addurn ar y baton 40cm o hyd a 4cm o ddiamedr roedd eiconau Cymreig; draig goch, cennin Pedr a chennin; yn ogystal â choron i ddynodi’r cyswllt brenhinol. Arysgrifiwyd y geiriau ‘VI British Empire and Commonwealth Games, Wales 1958’ ar y tiwb cau, a gynhyrchwyd gan y gofaint arian Turner and Simpson, Birmingham.
Y daith gyntaf
Ar 14 Gorffennaf 1958 gadawodd y baton sgwâr Palas Buckingham, cartref y Frenhines Elisabeth II a Phen y Gymanwlad, cyn teithio drwy nifer o siroedd Lloegr a phob un o dair sir ar ddeg Cymru ar ei ffordd i Gaerdydd. O ganlyniad i salwch, nid oedd y Frenhines yn bresennol i drosglwyddo’i neges i’r rhedwyr cyntaf – Dr Roger Bannister, y gŵr cyntaf i redeg milltir mewn llai na 4 munud, a phencampwyr eraill Gemau 1954 Chris Chataway a Peter Driver. Yr Is Gapten Collins a safodd yn y blwch a rhoi’r neges yn y baton. Fel nad oedd angen allwedd, roedd caead sbring ar un pen ond fel na fyddai’r baton yn cael niwed ar y daith symudwyd y neges i replica metel ar ôl yr ail gymal, oedd â chlo er diogelwch. Cafodd y replica ei gyfnewid am y baton arian seremonïol ar gyfer y cymal olaf er mwyn i’r rhedwr gario’r neges yn ddiogel i’r stadiwm.
Rhedodd 664 o athletwyr, gan gynnwys 32 o fechgyn ysgol, ar y daith o dros 600 milltir dros 4 diwrnod. Daw’r cyfieithiad isod o’r gyfrol The Story of the Sixth British Empire and Commonwealth Games gan Clive Williams (2008):
Cai un rhedwr o bob clwb, catrawd ac ysgol ym mhob sir ei ddewis i redeg cymal. Byddai’r athletwyr hŷn yn rhedeg dwy filltir a’r plant yn rhedeg milltir. Gyda’r rhedeg yn parhau drwy’r dydd a’r nos byddai rhedwyr hŷn yn cael eu defnyddio, lle bo modd, pan fo’r traffig yn drwm neu rhwng hanner nos a 6am. Pasiodd y neges drwy Langollen, Wrecsam, y Fflint, Llandudno a Chaernarfon cyn troi tua’r de drwy Ddolgellau, Aberystwyth, Aberteifi a Hwlffordd. Oherwydd bod y boblogaeth yn y de yn uwch, dyma’r Baton yn gwau ei ffordd drwy Gaerfyrddin, Llanelli, Abertawe a Phen-y-bont a thrwy drefi’r cymoedd yn Aberdâr, Brynmawr a’r Fenni, ac ymweld â Chasnewydd cyn troi am Gaerdydd.
Byddai car swyddogol yn dilyn pob rhedwr i’w warchod rhag cwmni ceir neu feiciau modur answyddogol, i oleuo’r ffordd yn y nos, ac i alluogi’r trefnwyr i gadw llygad ar yr amserlen. Cadwyd y cyflymdra rhwng 6.5 a 7.5 munud i bob milltir i sicrhau na fyddai’r rhedwyr yn rasio a galluogi’r torfeydd i weld y baton wrth iddo gael ei drosglwyddo.
Y seremoni agoriadol
I ffanffer trwmped a saliwt chwe gwn, cyrhaeddodd y rhedwr olaf Barc yr Arfau am 6.33pm ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf. Roedd enw’r athletwr yn gyfrinach fawr a dyma bonllefau cymeradwyaeth y dorf o 40,000 yn croesawu Ken Jones o Gasnewydd, y cyn chwaraewr rygbi 36 oed ac enillydd medal arian yn y ras gyfnewid gyflym yn y gemau Olympaidd. Mewn fest goch â bathodyn Cymru arni a siorts gwyn, rhedodd drwy fynedfa’r cystadleuwyr ac unwaith o amgylch y trac lludw yn dal y baton uwch ei ben. Arhosodd o flaen Dug Caeredin, Llywydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, a phasio’r baton iddo. Yn ôl y sôn gwaeddodd un llais smala o’r dorf ar y cyn chwaraewr rygbi “Nice pass Ken”. Darllenodd y Dug neges y Frenhines i’r dorf eiddgar:
Estynnaf groeso cynnes a phob dymuniad da i’r holl athletwyr sydd wedi ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer 6ed Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad. Rwyf wrth fy modd bod cymaint o wledydd y Gymanwlad wedi anfon timau i Gymru i gystadlu yn y Gemau yma. Mae’r nifer yn uwch nag erioed a dros dair gwaith yn fwy na’r gystadleuaeth gyntaf yn Hamilton ym 1930. Croesawn y prawf hwn o’r gwerth cynyddol a roddir ar gryfder a sgìl yn natblygiad y dyn cyflawn, iach o gorff ac iach o feddwl. Pleser personol hefyd yw gwybod bod cymaint o aelodau teulu’r Gymanwlad yn cyfarfod ar gyfer cystadlu ac ymryson cyfeillgar. Gobeithio y bydd cyfeillgarwch parhaol yn deillio o’r cyfarfod mawr hwn o athletwyr a gwylwyr, ac y byddwch chi i gyd yn dychwelyd wedi ennyn dealltwriaeth well o’n Cymanwlad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi ddiwedd yr wythnos nesaf.
Gyda hyn, agorwyd y Gemau o’r diwedd, gyda Chaerdydd yn croesawu 1,122 o athletwyr o 35 gwlad i gystadlu mewn athletau, bocsio, beicio, ffensio, bowls, rhwyfo, nofio a phlymio, codi pwysau a reslo. Yn ogystal â Pharc yr Arfau, lle cynhaliwyd y seremonïau agoriadol a chlo a’r cystadlaethau athletau, cynhaliwyd y nofio yn yr Empire Pool (a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y Gemau), y bocsio yng Ngerddi Soffia, y beicio yn Stadiwm Maendy a’r rhwyfo ar Lyn Padarn, Llanberis. Enillydd unig fedal aur Cymru oedd y bocsiwr pwysau bantam Howard Winstone, ond enillodd y tîm cartref dair medal arian a saith medal efydd.
Y seremoni glo
Bu’r Gemau yn llwyddiant mawr ac roedd y seremoni glo ar 26 Gorffennaf yn achlysur hanesyddol. Nid oedd y Frenhines eto yn bresennol o ganlyniad i salwch, a dyma hi’n recordio neges i’r dorf yn datgan ei bod am enwi ei mab, Charles, yn Dywysog Cymru ar y diwrnod.
Er taw hi yw’r wlad leiaf erioed i lwyfannu’r Gemau, trefnwyd gwledd o chwaraeon yn ddiffwdan oedd yn llwyfan haeddiannol ar gyfer y dathliad o gampau, grym a gwrhydri mabolgampwyr y byd.
Wedi cloi Gemau 1958 cynigiwyd y Baton yn rhodd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan y Pwyllgor Trefnu, ar ran y Frenhines. Fe’i cadwyd byth er hynny yn yr Adran Gelf ynghyd â’r neges frenhinol, yn waddol weledol un o wyliau chwaraeon pwysicaf Cymru.
Diolch i Chris Jenkins, Prif Weithredwr, Cyngor Gemau’r Gymanwlad dros Gymru, a Clare Ewing, Swyddog Digwyddiadau, Chwaraeon Cymru, am eu cymorth caredig.
sylw - (8)
I read the article by Winston Rodrick, I have still got my Certificate and letter of thanks from the organise committee and if you could pass on my Email address I could let him have copies if it would help him in his book.
Thanks for providing the the reminder of those wonderful memories
Graham Davies
Digital Team
Hope you can help.
Winston
I had the privilege to be one of f the Baton carriers between Briton Ferry roundabout and Bridgend. We met at Port Talbot Police Station , very early. In the morning and were transported along the route b y RAF buses, after completing our section, from Pentyla, Port Talbot, along A48, thro` town to the end of our section at Taibach park, our quartette comprised of Alan Heggart, Alan Tanner, John Moelwyn Jones and myslef( Geraint Morgan) we received the baton from John Collins, Welsh international rugby player. These are the only pictures that remain in my mind,. 60 years have past, therefore other memories seem to very faint. I am honoured to have been given the opportunity to have been part of the history of the British Empire and Commonwealth Games of 1958. I wonder , how many of us are still alive?????
Thank you for your comment. The Museum does not hold any video of this event. You may want to ask the Commonwealth Games Council for Wales if there were any photographs taken at that event.
Many thanks,
Graham Davies
Digital Team, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales.
to whom it may concern.
My uncle with this Name (Smart Akraka) represented Nigeria at the Commonwealth games in Cardiff 1958.
He ran 4x110yrds and won silver medal for Nigeria. And with the 100yrds and 220yrds he reached the quater final. Please, let me know how i can get the full Video and what it will cost me to have it.
Kind Regards
Sylvester Akraka