Dawnsio Gwerin - bron â diflannu i ebargofiant
Can mlynedd yn ôl, bu bron i'r traddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru ddiflannu'n llwyr oherwydd blynyddoedd o wrthwynebiad gan yr Anghydffurfwyr. Heddiw, mae'n boblogaidd eto. Mae dros 20 o grwpiau ledled Cymru, ac mae nifer o bobl ifanc brwdfrydig yn dysgu'r grefft a oedd bron â mynd yn angof.
Dawnsio Gwerin yng Nghymru
Ar un adeg, roedd dawnsio gwerin yn gyffredin ledled Cymru. Byddai'r 'gwerinwyr' yn ymgynnull ar gyfer digwyddiadau awyr agored a gwyliau, tra byddai'r bonheddwyr yn cynnal dawnsfeydd a phartïon. Roedd dawnsio gwlad, a fyddai'n cael ei berfformio yn yr awyr agored dros fisoedd cynnes yr haf, yn un o uchafbwyntiau'r dathliadau tymhorol, ac yn cynnig cyfle prin i ddianc rhag bywyd pob dydd, ac ymuno yn y dathliadau cymunedol.
Bu dylanwad cynyddol yr Anghydffurfwyr yn y 19eg ganrif yn gyfrifol am newid agweddau pobl at arferion gwerin traddodiadol, gan gynnwys dawnsio. Er nad dyma'r unig ffactor oedd yn gyfrifol am ddirywiad dawnsio gwerin Cymreig, mae'n sicr iddo chwarae rhan fawr yn y broses. Ymysg y ffactorau eraill oedd dirywiad bywyd gwledig, y Chwyldro Diwydiannol, a dyfodiad y rheilffyrdd, a gynigiodd y posibilrwydd o weithgareddau hamdden a chyffrous newydd a phellach i ffwrdd.
Yr Anghydffurfwyr
Ymddangosodd Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn ystod y 1730au. Roedd yn ffydd a berswadiai ei ddilynwyr i fyw bywyd mwy crefyddol ac i ymrwymo i'r neges Gristnogol. Roedd y gweinidogion anghydffurfiol o'r farn bod gweithgareddau fel dawnsio, yn enwedig dawnsio cymysg, yn wamal ac yn llwgr, ac yn eu condemnio. Does dim syndod felly bod dawnsio ar frig y rhestr o bechodau a luniodd Rhys Prydderch yn Gemmeu Doethineb (1714), o flaen gweithredoedd amhur eraill fel priodi plant.
Bu bron i ddawnsio gwerin ddiflannu'n llwyr o Gymru yn dilyn bron i 200 mlynedd o feirniadaeth gyson yr Anghydffurfwyr. Roedd y ffeiriau a'r gwyliau traddodiadol wedi darfod, ac mewn cymdeithas oedd yn newid ac yn canolbwyntio ar ehangu diwydiannol, roedd traddodiadau gwledig Cymru a Lloegr yn raddol ddiflannu.
Bron â cholli Dawnsio Gwerin am byth
Sylweddolodd Cecil Sharp (sylfaenydd yr English Folk Dance Society ym 1911) fod dawnsio gwerin ar fin diflannu o Gymru am byth, ac aeth ati i gofnodi symudiadau dawnsiau oedd ar gof a chadw ar ôl eu pasio o un genhedlaeth i'r llall.
Yng Nghymru, bu Lois Blake, Saesnes a symudodd i Sir Ddinbych yng nghanol y 1930au, yn gwneud yr un fath. Hi oedd yn bennaf gyfrifol am achub gweddillion y traddodiad a fu unwaith mor boblogaidd yng Nghymru. Cyhoeddwyd nifer o bamffledi ag arnynt ddawnsiau a cherddoriaeth, a'i gwnaeth yn bosib ailgyhoeddi dawnsiau o'r gorffennol fel Jig Arglwydd Caernarfon o 1652, set Llangadfan o 1790 a Dawns Llanofer, a oedd yn boblogaidd yn Llys Llanofer tan ddiwedd y 19eg ganrif.
Adfywiad Dawnsio Gwerin
Yn fuan, cododd brwdfrydedd newydd, a atgyfnerthwyd wrth gyflwyno dawnsio gwerin i lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, a Thwmpathau'r 1960au a'r 1970au, a sicrhawyd sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol dawnsio gwerin.
Ers sefydlu Cymdeithas Ddawns Werin Cymru ym 1949, mae dawnsio gwerin wedi ffynnu yma a dros y môr. Mae'r gweithdai cyson, y darlithoedd, a'r cyrsiau a drefnir gan y gymdeithas yn boblogaidd o hyd, ac mae dawnsfeydd yr Eisteddfod yn denu cynulleidfaoedd mawr. O ystyried ei orffennol ansefydlog, mae'n argoeli'n dda fod gan ddawnsio gwerin Cymreig ddyfodol llewyrchus o'i blaen.
sylw - (1)