Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies

David Davies (1818-1890)
Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies)

Hafn Talerddig, y dyfnaf yn y byd ar y pryd.

Doc Rhif 1 ym 1913, pan oedd dociau'r Barri'n allforio 11 miliwn tunnell o lo. Mae'r ardal ym mlaen y llun ar y dde'n edrych fel arwynebedd solet a gwastad, ond dŵr y doc yw hwn mewn gwirionedd, wedi'i orchuddio â throchion a llwch glo.

David Davies, Llandinam

Trawsnewidiodd rhoddion a chymynroddion Gwendoline a Margaret Davies amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr. Y chwiorydd Davies oedd cyfranwyr mwyaf yr Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf.

Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dechreuodd David Davies ei oes fel ffermwr tenant a llifiwr. Gwnaeth ei ffortiwn trwy adeiladu rhan helaeth o system reilffyrdd y canolbarth wrth i Gymru Oes Victoria ddiwydiannu, bu'n arloeswr y diwydiant glo yng nghwm Rhondda, ac ef oedd y grym y tu ôl i'r gwaith o adeiladu dociau'r Barri.

Rheilffyrdd

Dechreuodd ei yrfa ym myd y rheilffyrdd wrth iddo adeiladu Rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes ym 1859, a bu'n allweddol wrth adeiladu nifer o reilffyrdd y canolbarth, Dyffryn Clwyd a Sir Benfro. 

Ei gamp fwyaf fel peiriannydd y rheilffyrdd oedd hafn fawr Talerddig ar Reilffordd y Drenewydd a Machynlleth - hon oedd hafn ddyfnaf y byd pan gwblhaodd y gwaith ym 1862.

Ond ni lwyddodd pob un o fentrau Davies — ni chyrhaeddodd y rheilffordd â'r enw crand Rheilffordd Manceinion a Milffwrdd fyth y naill le na'r llall!

Glo — 'Davies yr Ocean'

Bu 1864 yn drobwynt yng ngyrfa David Davies pan gymerodd les fwynau arloesol yng nghymoedd y de. Fe gymerodd ddwy flynedd i'r pyllau cyntaf ddechrau cynhyrchu ar raddfa fawr ac roedd wedi agor pum glofa ychwanegol erbyn 1886.

Y flwyddyn ganlynol daeth y pyllau dan enw cwmni cyfyngedig cyhoeddus newydd, yr Ocean Coal Co. Ltd.

Pan fu farw Davies ym 1890, hwn oedd cwmni glo mwyaf a mwyaf proffidiol y de.

O'r pwll i'r porthladd

Penllanw gyrfa David Davies oedd adeiladu'r doc yn y Barri.

Cyfunodd Davies a nifer o berchnogion glofeydd eraill cwm Rhondda eu hymdrechion i ddatrys problem prysurdeb Rheilffordd Cwm Taf a dociau Bute yng Nghaerdydd. Aethant ati i adeiladu rheilffordd o'r maes glo i'r dociau newydd yn y Barri, oedd yn bentrefan bach bryd hynny. Er gwaetha'r gwrthwynebiad ffyrnig o garfan Bute, agorodd y doc ym 1889.

Cyfoeth ar waith

Roedd David Davies yn Fethodist Calfinaidd selog. Ffydd anghydffurfiol lem oedd hon, oedd yn unigryw yng Nghymru ac yn wahanol i Fethodistiaeth Wesleaidd.

Fel holl aelodau teulu Gwendoline a Margaret, bu'n Sabathydd ac yn llwyrymwrthodwr gydol ei oes. Fe wnaeth hyn feithrin ynddo ymdeimlad dwfn o ddyngarwch a gwasanaeth cyhoeddus. Roedd yn gyfrannwr hael iawn at achosion crefyddol ac addysgol.

Gan iddo dderbyn addysg elfennol iawn ei hun, roedd darparu addysg prifysgol yng Nghymru yn agos at galon David Davies. Roedd yn gefnogwr brwd o'r coleg cyntaf a agorwyd yn Aberystwyth ym 1872.

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Ceredigion rhwng 1874-86, a chafodd ei ethol i Gyngor cyntaf Sir Drefaldwyn adeg ei sefydlu ym 1889.

Ar ôl David Davies

Bu farw David Davies ym 1890 ac fe'i olynwyd gan ei fab Edward. Bu straen rhedeg y busnes yn ormod iddo, a bu farw gwta wyth mlynedd ar ôl ei dad.

Olynwyd yntau yn ei dro gan David, brawd Gwendoline a Margaret, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf. Ef fu'n gorfod dygymod â dirwasgiad hir y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel.

Yn dilyn y rhyfel gwladolwyd y diwydiant glo, y dociau, a'r rheilffyrdd, ac fe gollodd y teulu eu gafael ar eu busnesau helaeth.

Heddiw mae holl lofeydd Ocean a'r rhan fwyaf o'r system rheilffordd a greodd David Davies wedi cau, ac mae dociau'r Barri'n gymharol segur.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.