Bro Morgannwg a bwrlwm diwydiant

Adeiladwyd dociau newydd ym Mhorth-cawl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llun o Grochendy Ewenni o ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Chwarel galchfaen ger Aberddawan yn 1950au.

Dociau'r Barri, tua 1910, gyda llongau wedi'u hangori wrth y bwiau'n aros i lwytho glo.

Bro Morgannwg a bwrlwm diwydiant

Er mai amaeth fu diwydiant y Fro yn bennaf, mae nifer o ddiwydiannau eraill wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr ardal, ac mae rhai ohonynt yn dal ar waith heddiw. Datblygodd rhai o'r diwydiannau hynny oherwydd daeareg galchfaen yr ardal, ac eraill oherwydd yr arfordir maith neu'r dirwedd gymharol wastad.

Crochenwaith

Bu crochendy yn Ewenni ers dechrau'r bymthegfed ganrif. Y teulu Jenkins fu wrth y llyw ers 1610, ac mae'n parhau'n fusnes llwyddiannus heddiw.

Chwarela

Bu cryn dipyn o gloddio am galchfaen yn yr ardal hon. Cafodd ei ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu, a'i losgi er mwyn cynhyrchu gwrtaith a sment. Roedd yn cael ei gludo hefyd ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf a gogledd Dyfnaint.

Mwyngloddio

Yn y cymoedd i'r gogledd o'r Fro, roedd cronfeydd helaeth o lo ager o ansawdd uchel. Er gwaethaf maint enfawr a phrysurdeb dociau Caerdydd, roeddent yn rhy fach i ateb y galw byd-eang am y tanwydd gwerthfawr. Felly, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd cyfleusterau newydd ym Mhorth-cawl, Penarth a'r Barri. Yn wir, pan oedd y diwydiant ar ei anterth ym 1913, allforiwyd dros 11 miliwn o dunelli o'r Barri. Mae dociau'r Barri'n dal mewn defnydd heddiw.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.