Y casgliad doliau yn Amgueddfa Cymru a datblygiad doliau drwy'r oesoedd

Doli ar ffurf bachgen bach o'r 19fed ganrif hwyr

Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i gasgliad gwych o ddoliau yn dyddio o tua 1800 hyd 2000 — pob un wedi'u gwneud o ddeunyddiau amrywiol a phob un â rhyw gysylltiad â Chymru. Gellir olrhain datblygiad crefft y saer doliau o'r esiamplau pren cyntaf i ddoliau plastig cyfoes. Gwelwn hefyd y newid o deganau cartref syml, i nwyddau ffatri wedi'u masgynhyrchu.

Chwarae yw prif fwynhad plant pob oes, ac mae dianc i'w byd dychmygol eu hunain yn rhan hanfodol o blentyndod iach a llawn cymhelliad.

Mae doliau syml o bren a chlai wedi'u canfod mewn beddrodau Eifftaidd yn dyddio o 1600 CC, ac rydyn ni'n gwybod bod plant yr hen Roeg a Rhufain yn mwynhau teganau o'r fath. Byddai doliau yn cael eu cynhyrchu yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol ac wrth i'r canrifoedd basio, ehangodd yr amrywiaeth o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd i greu doliau a theganau yn gyffredinol.

Caiff doliau eu dosbarthu yn ôl y math o ben sydd arnynt. Yn naturiol, pren oedd y rhan fwyaf o ddoliau cynnar a grëwyd mewn ardaloedd yn yr Almaen ac Awstria lle roedd cerfio pren yn grefft draddodiadol boblogaidd. Dechreuodd doliau cwyr ymddangos yn ystod y 17eg ganrif, ac erbyn tua 1800 roedd doliau cyfansawdd — cymysgedd o bren a phapur wedi'u pwlpio — yn cael eu creu yn yr Almaen. Daeth papier-mâché — dull cyfansawdd oedd yn rhatach na phren — yn boblogaidd a dechreuwyd ei fasgynhyrchu yn nechrau'r 19eg ganrif, a dyma fu dechrau'r diwydiant creu doliau yn yr Almaen.

Diflannodd y diwydiant doliau cŵyr erbyn 1890 gyda thwf doliau porslen neu tsieni wedi'u gwydro yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd gorffeniad sgleiniog y doliau porslen yn atyniadol iawn ac yn yr Almaen a Ffrainc y crëwyd y rhan fwyaf o'r doliau yma. Roedd doliau bisg (porslen anwydrog) gydag wynebau wedi'u paentio'n ofalus a lliw croen hynod ddeniadol hefyd yn gyffredin yn y ddwy wlad o'r 1860au.

Tra bod y pennau o tsieni, cyrff o ledr neu bren fyddai gan y doliau, ac er taw portreadau o fenywod oedd y rhan fwyaf o ddoliau yn hanesyddol daeth y 'bebe' Ffrengig yn boblogaidd yn y 1880au oedd wedi'u modelu ar ferched ifancach am y tro cyntaf.

Roedd y 19eg ganrif yn oes aur i gynhyrchu doliau, boed yn goed, cwyr neu tsieni, gyda'r mwyafrif yn cael eu cynhyrchu yn yr Almaen, Ffrainc, Lloegr ac yn ddiweddarach, yr Unol Daleithiau. Cyn gwawrio'r oes ddiwydiannol, byddai teganau a doliau yn cael eu gwerthu fel arfer mewn ffeiriau teithiol a marchnadoedd, ond yn y 19eg ganrif agorodd siopau teganau parhaol i werthu nwyddau yn rheolaidd.

Mae'r ddol fwdw gwrth-swffragetaidd hon yn wawdlun creulon o ferch sy'n ymgyrchu dros yr hawl i bleidleisio. Defnyddiai'r mudiad gwrth-swffragetiaid ddelweddau fel hyn mewn cartwnau a phosteri i fychanu merched oedd yn mynnu'r bleidlais.

Doli glwt swffraget, tua 1890-1900

Set o dair dol bisque bach, tua 1920-25

Byddai doliau yn cael eu prynu'n aml heb ddillad gyda mamau a'u merched yn gwnio'r gwisgoedd â llaw, gan ddefnyddio eu patrymau eu hunain neu batrymau wedi'u prynu o'r siop. Mae'r pwythwaith ar gorff y ddol yn aml yn ddangosydd da o'i hoedran gan na fyddai peiriannau gwnio'n cael eu defnyddio'n rheolaidd tan tua 1870. Roedd doliau erbyn hynny'n dod yn eitemau llai moethus nag yn y 18fed ganrif gyda chynulleidfa ehangach yn medru eu fforddio. Yng Nghymru fodd bynnag, prin oedd gan deuluoedd y wlad arian i wario ar ddim ond anghenion bywyd tan ganol yr 20fed ganrif, ac roedd yn rhaid iddynt greu eu hadloniant eu hunain.

Er bod doliau yn bodoli, cai'r rhan fwyaf eu creu gan grefftwyr lleol neu rieni'r plentyn o bren neu ddefnydd — teganau syml, ond eto'n hudolus a llawn cymeriad.

Gweddnewidiwyd y diwydiant teganau ym Mhrydain wedi'r Ail Ryfel Byd gan dechnegau cynhyrchu newydd a dyfodiad deunyddiau newydd, rhatach fel plastig. Wrth i deganau a doliau ddod o fewn cyrraedd i blant o bob dosbarth cymdeithasol disgynnodd y prisiau. Cynhyrchwyd doliau plastig caled am y tro cyntaf yn y 1940au a gyda phoblogrwydd cynyddol y creadigaethau lliwgar a ffasiynol newydd, diflannodd yr eitemau gwaith llaw oedd yn edrych braidd yn ddi-raen wrth eu hymyl.

Ym 1959 cyrhaeddodd Barbie y siopau — y ddol o America sydd wedi profi llwyddiant rhyngwladol hynod — a bellach mae dewis di-ri o ddoliau yn ein siopau, a nifer ohonynt wedi'u seilio ar gymeriadau benywaidd ffilmiau a rhaglenni teledu poblogaidd.

Mae casgliad doliau Sain Ffagan yn parhau i dyfu gan ei bod hi'n bwysig casglu esiamplau cyfoes i adlewyrchu'r newid yn y byd creu doliau gyda dyfodiad deunyddiau a thechnegau newydd. Mae cyswllt â Chymru'n parhau yn hanfodol a rhaid i'r ddol fod wedi ei chynhyrchu yng Nghymru neu taw plentyn o Gymru fu'n chwarae â hi, cyn iddi gael ei derbyn.

Mae'r Amgueddfa'n hynod falch o'i doliau mewn gwisg Gymreig gyda'r casgliad yn cynnwys esiamplau prin o ganol y 19eg ganrif i'r Barbie 'Cool Cymru' o 1999 yn gwisgo'r wisg ddraig goch eiconig.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Jan Hamblin
13 Chwefror 2022, 15:19
Hello
I recently purchased an unused 1969 investiture welsh doll pattern, Myfanwy Jones. The piece measures 25" x 19" and is printed on calico. I cant find any on line apart from one on ebay, AMerica. Can you provide any more information?
Many thanks
Jan Hamblin