Darganfyddiad newydd am hen offeryn: oedd dau seinflwch y crwth Cymreig yn unigryw?

Crwth Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Crwth Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y crwth o'r 18fed ganrif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Y crwth o'r 18fed ganrif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn ddigon ffodus i feddu ar un o dri chrwth Cymreig sy'n dal i fodoli ym Mhrydain. Wedi darganfod agorfa gudd, ai dyma'r unig offeryn a chwaraeir gyda bwa i gael dau seinflwch?

Gwelir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at offeryn llinynnol o'r enw 'crwth' yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y 12fed ganrif. Roedd yn boblogaidd yng Nghymru drwy gydol yr Oesoedd Canol ac yn ffefryn ymysg y dosbarthiadau uwch. Mae Cyfreithiau Hywel Dda yn cyfeirio at y crwth, ynghyd â'r delyn a'r pibau, fel offeryn o statws a chwaraeir gan wŷr bonheddig ac a ddefnyddid yn aml mewn adloniant cerddorol.

Cynhaliwyd cystadlaethau ar y crwth yn Eisteddfod gyntaf yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi ym 1176, ac mae cywydd gan Rhys Goch Eryri, tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, acrobatiaid a cherddorion (gan gynnwys y crythwyr) gai eu croesawu i gartrefi noddwyr cyfoethog.

Poblogeiddio'r ffidil

Newidiodd rôl gymdeithasol y crwth yn sylweddol oddeutu 1600 fodd bynnag, wrth iddo gael ei gysylltu fwyfwy â'r traddodiad gwerin. Daeth poblogrwydd y ffidil yn y 18fed ganrif ag oes y crwth fel offeryn byw i ben yng Nghymru i bob pwrpas, gan gau pen y mwdwl ar fileniwm a mwy o arfer a datblygiad.

Erbyn ailgynnau'r diddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol yn nechrau'r 20fed ganrif, roedd y grefft o greu crwth, heb sôn am y dulliau cydnabyddedig o'i chwarae a thechnegau perfformio eraill, wedi mynd yn angof.

Y crythau olaf

O'r tair esiampl hanesyddol sy'n dal i fodoli, mae pob un yn offeryn chwe thant hirsgwar gyda chefn, ochrau a seinfwrdd gwastad, gyda'r corff, y seinflwch a'r brif ffrâm wedi'u cynhyrchu o un darn o bren. Mae byseddfwrdd yn rhannu agoriad hirsgwar yn un pen a gellir gweld dau dwll yn y seinfwrdd.

Crwth Sain Ffagan

Mae'r flwyddyn 1742 wedi'i harysgrifio ar y crwth a chafodd ei gynhyrchu gan Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon. Cafodd ei fenthyg i'r Amgueddfa'n wreiddiol ym 1935 gan y Cyrnol J. C. Wynne Finch o'r Foelas, Sir Gaernarfon; ei deulu yw perchnogion yr offeryn hyd heddiw. Er ei fod yn gyflawn, mae cyfres o begiau tiwnio wedi'u cau sydd bron yn cydredeg â'r set bresennol.

Crwth Aberystwyth

Mae ail grwth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a roddwyd i'r Llyfrgell ar ei hagoriad ym 1907 gan ei phrif sylfaenydd, Syr John Williams. Mae'n bosibl taw'r Parchedig John Jenkins (1770-1829) o Geri, Sir Drefaldwyn oedd perchennog yr offeryn hwn. Er ei fod yn gyflawn (ac eithrio dau dant drôn sydd ar goll), mae gwaith adfer/atgyweirio sylweddol wedi cael ei wneud i'r prif fframwaith rywdro.

Crwth Warrington

Gellir gweld y drydedd esiampl yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington, ac er bod y dyddiad yn anhysbys mae'n debyg i offeryn a ddisgrifiwyd ac a ddarluniwyd yn rhifyn 1775 o'r cyfnodolyn Archaeologia (cyfrol III, plât vii). Prynwyd y crwth hwn yng Nghymru ym 1843 gan Dr James Kendrick, un o haneswyr lleol cyntaf Warrington a hynafiaethydd nodedig. Rhoddodd Kendrick y crwth i'r dref y flwyddyn honno gan ddod yn un o'r eitemau cyntaf i gael ei arddangos yn yr amgueddfa leol.

Mae crwth Warrington yn llai cyflawn na'r ddau flaenorol, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll.

Crwth Sain Ffagan dan belydr-X.

Crwth Sain Ffagan dan belydr-X. Mae'r darn tywyllach yn y gwddf yn dangos gofod clir yn culhau ac mae agoriad cudd wedi'i guddio o dan y byseddfwrdd lle mae'r gofod ar ei fwyaf llydan

Mae delwedd pelydr-x o grwth y Llyfrgell Genedlaethol

Mae delwedd pelydr-x o grwth y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos yr un nodweddion ag esiampl Sain Ffagan.

Y crwth yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington

Y crwth yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. © Warrington Museum and Art Gallery.

Mae byseddfwrdd coll crwth Warrington yn ein galluogi i weld maint llawn y gofod.

Mae byseddfwrdd coll crwth Warrington yn ein galluogi i weld maint llawn y gofod. Gellir gweld y gwahaniaeth rhwng y coed moel golau yn y llun a'r border tywyllach fyddai wedi'i leinio â glud.

Datgelu agoriad cudd

Mae gwaith cadwraeth ar grwth Sain Ffagan wedi datgelu agoriad cudd o dan y byseddfwrdd sy'n ymwthio tu hwnt i'r byseddfwrdd. Yn dilyn archwilio pellach, gwelwyd bod yr agoriad yn ymestyn ar hyd y gwddf. Datgelodd delwedd pelydr-x o'r offeryn fod gwagle pwrpasol sy'n culhau ar hyd y byseddfwrdd.

Golyga hyn bod llai o arwyneb i ludo'r byseddfwrdd i'r gwddf ac felly byddai'n dipyn anoddach i'w gynhyrchu nag offeryn â gwddf solid, gwastad — fyddai wedi glynu'n well i arwyneb uwch y gwddf.

Beth fyddai'r rheswm dros greu agoriad o'r fath? A fyddai'n gwella safon donyddol yr offeryn? Mae'n bosibl iawn y byddai'r agoriad wedi gweithio mewn modd tebyg iawn i seinflwch offeryn neu chwyddseinydd i roi sain mwy cyflawn wrth i'r tannau ddirgrynu.

Offeryn bwa unigryw?

Mae'n ddigon posibl bod yr ail seinfwrdd hwn yn gwneud y crwth yn unigryw ymysg offerynnau gaiff eu chwarae â bwa, gan nad oes nodwedd o'r fath wedi cael ei ddefnyddio yn un o offerynnau eraill teulu'r feiolin.

Dangosodd archwiliad o grwth Aberystwyth agoriad tebyg yn y gwddf. Gan fod nodweddion gwahanol i'r esiampl hon i'r un a gedwir yn Sain Ffagan (a'i bod mwy na thebyg wedi cael ei hadeiladu gan grefftwr gwahanol) mae'n ddigon posibl bod agoriad o'r fath yn nodwedd oedd yn gyffredin i bob crwth.

Er mwyn cadarnhau'r ddamcaniaeth hon, dangosodd archwiliad manwl o ddelwedd o'r crwth yn Amgueddfa Warrington y gellir gweld y llinellau glud yn culhau bob ochr i'r gwddf, gyda phren moel yn y canol, gan ddangos maint yr agoriad gwreiddiol. Mae'r amrywiad yn y cynllun eto'n awgrymu taw crefftwr gwahanol a'i cynhyrchodd.

Mae'n rhaid felly bod agoriad yng ngwddf y crwth yn dechneg adeiladu safonol y byddai gwneuthurwyr crythau yn eu defnyddio wrth adeiladu'r offeryn.

Mae'n bosibl bod modd profi'r gwahaniaeth a wnaiff yr agoriad hwn i sain yr offeryn drwy gofnodi graddfa donyddol atgynhyrchiad o grwth sydd â byseddfwrdd solid, cyn creu agoriad yn yr un offeryn a chofnodi'r gwahaniaeth.

Dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig

Dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig

Rhaid tynnu sylw hefyd at nodwedd arbennig arall am grwth Sain Ffagan, sef dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig.

Gan y byddai'r crwth yn cael ei ddal yn erbyn y corff fel arfer, gallai'r offerynnwr weld i lawr y gwddf a byddai cynllun ar y byseddfwrdd o bosibl wedi helpu gyda lleoliad y bysedd ar y gwddf. Yn rhyfedd iawn, mae ôl y dyluniad hwn i'w weld hefyd ar seinfwrdd telyn fechan sydd hefyd i'w gweld yn Sain Ffagan.

Erthygl gan: Emyr Davies, Cadwraethydd: Celfi, Offerynnau Cerdd a Horoleg, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

sylw(5)

Craig Cowing
15 Chwefror 2021, 04:35
Hollow necks are also common in Indian string instruments, such as various forms of veenas. As noted above this was to cut down on weight.
Michael J King
23 Ionawr 2020, 17:06
The hollowing of the fingerboard/neck is simply to lighten the neck, not unique to Crwths, Hollowing of the neck helps the balance of the instrument, This practice was actually common on violins in the 19th century. nd earlier. hollowing the fingerboard also made it easier to glue and less likely to come off due to movement associated with hard woods.
Nigel Pennick
13 Mehefin 2016, 10:03
The inked 'graphic design' is a version of an apotropaic sigil used in various contexts in northern Europe in former times, related to the Dutch 'Godsoog' (eye of God).
Graham Davies
8 Chwefror 2016, 15:57
Dear Mr. Gilbert, thank you for your enquiry.
The image in this article was provided by the National Library of Wales, therefore you would need to contact the National Library of Wales for the image and to clear any possible copyright.

Regards,
Graham Davies
Digital Media
Chris Gilbert
8 Chwefror 2016, 15:36
Hi there
I am putting together a new book of Welsh dialect and the author has asked for an image of a crwth as per the one at the top of this website page.
Would it be possible to let me have a jpeg of this image?

Many thanks

Chris Gilbert
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.