Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis gan Francsesco Guardi
Mae'r paentiad bychan hwn gan Francesco Guardi yn dangos llysgenhadaeth yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn Fenis mewn manyldeb rhagorol.
Saif yr adeilad yng nghanol prysurdeb bywyd bob dydd y Gamlas Fawr. Mae dillad yn sychu ar falconïau, cychod gondolïwyr yn pasio wrth eu gwaith a diplomyddion yn eu gwisgoedd drudfawr yn syllu o'u ffenestri neu'n cerdded ar y cei.
Yng nghanol y môr o ffigyrau gwelwn fonheddwr mewn gwisg las — y llysgennad ei hun mwy na thebyg — yn sefyll ger mynedfa'r palazzo yn dal teyrnwialen aur. Uwch ei ben, gwelwn arfbais y gyfundrefn bwerus fu'n rheoli rhannau helaeth o ganolbarth Ewrop am ganrifoedd.
Mae Guardi yn enwog fel un o beintwyr tirluniau Fenisaidd mwyaf y ddeunawfed ganrif; fe'u gelwid yn beintwyr veduta. Roedd ei weithiau yn hynod boblogaidd a cawsant ddylanwad ar artistiaid a chasglwyr Prydeinig a ymwelodd â Fenis yn ystod y Daith Fawr.
Mae'r gwaith hwn yn esiampl dda o'i dechneg aeddfed ac yn cyfuno'r manyldeb cywrain a feistrolodd dan ddylanwad Canaletto â gwaith brws cynyddol fynegiannol, atmosffer a golau.
Datgelodd gwaith glanhau gan gadwraethwyr yr Amgueddfa lewych syfrdanol yr effeithiau gwreiddiol yma.
Pan ddaeth y paentiad hwn i feddiant yr Amgueddfa'n wreiddiol, doedd effaith y dechneg ryfeddol ddim yn gyflawn. Roedd yr haen uchaf o farnais a orchuddiai'r paentiad wedi afliwio'n ddrwg, gan droi'n frown dros amser. Drwy edrych ar y llun dan olau uwch-fioled, gwelwyd hefyd bod gwaith adfer gormodol wedi cael ei wneud ar yr awyr.
Glanhaodd cadwraethwr yr Amgueddfa arwyneb y paent gan dynnu'r hen farnais a gwaith adfer blaenorol. Gwelwyd taw darnau bychan o bigment oedd y gronynnau du pitw yn y paent, yn hytrach na baw fel y tybid cyn hyn. Byddai'r artist wedi cymysgu ei baent ei hun a gellir gweld gronynnau tebyg mewn gweithiau eraill gan Guardi.
Gyda llewych gwreiddiol gwaith Guardi bellach yn amlwg, cafodd y paentiad ei ail-farneisio a'i arddangos.
Cyn ac wedi glanhau
Mae cadwraethwyr yr Amgueddfa wedi bod wrthi'n brysur yn glanhau'r gwaith, dyma lun o'r gwaith cyn ac ar ôl cael ei adfer: