Y Baddondai Pen Pwll
Llwch glo llethol
Cyn i faddondai pen pwll ddod yn gyfleuster cyffredin, doedd dim dewis gan y rhan fwyaf o lowyr, fyddai wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o waith, ond teithio adref o'r gwaith yn llwch glo i gyd. Byddai eu dillad yn diferu o chwys yn aml gan godi'r siawns o ddal niwmonia, broncitis neu grydcymalau. Wedi cyrraedd adref, roedd yn rhaid golchi cymaint o'r baw â phosibl ymaith mewn baddon tin o flaen y tân.
Menywod y tŷ fyddai'n gyfrifol am gynhesu'r dŵr ar gyfer baddon y glöwr a golchi a sychu'i ddillad fel arfer. Roedd cadw'r tŷ yn lân rhag llwch y glo yn frwydr feunyddiol hefyd. Doedd dim diwedd ar y gwaith caled yma, a byddai blinder a straen corfforol yn arwain at broblemau iechyd difrifol yn aml, ac weithiau at enedigaethau cynamserol a cholli plentyn.
Bu'n rhaid i ddiwygwyr cymdeithasol, dan faner 'Mudiad y Baddondai Pen Pwll', lobïo'n galed cyn darbwyllo'r Llywodraeth, y meistri glo a rhai o'r glowyr a'u gwragedd hyd yn oed, bod angen am faddondai pen pwll. Bu'n frwydr hir a chaled, o'r ymgyrchu agoriadol yn y 1890au hyd sefydlu cronfa arbennig ym 1926 i adeiladu baddondai, dan nawdd Pwyllgor Lles y Glowyr.
Diwygio Cymdeithasol
Roedd baddondai pen pwll wedi cael eu defnyddio yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen ers y 1880au. Ym 1913 anfonwyd cynrychiolwyr i weld y baddondai Ewropeaidd yma gan David Davies, perchennog cwmni Ocean Coal ac un o eiriolwyr diwygio cymdeithasol. Arweiniodd yr ymweliad hwn at adeiladu'r baddondy cyntaf yng Nghymru ym Mhwll Deep Navigation, Treharris, ym 1916. Bu llwyddiant baddondai Deep Navigation yn allweddol yn yr ymgyrch bropaganda a drefnwyd gan y sawl oedd am weld baddondy pen pwll ym mhob pwll glo yng Nghymru.
Ym 1919 sefydlodd Llywodraeth Prydain Gomisiwn Brenhinol ('Comisiwn Sankey') i ymchwilio i amodau cymdeithasol a gwaith y meysydd glo. Sefydlwyd 'Cronfa Lles y Glowyr' o ganlyniad i hyn er mwyn '... improve the social well being, recreation, and condition of living of workers in or about coal mines'. Casglwyd arian y gronfa hon drwy godi ceiniog ar bob tunnell o lo a gloddiwyd. Defnyddiwyd y gronfa at sawl diben, yn cynnwys darparu caeau chwarae, pyllau nofio, llyfrgelloedd a sefydliadau. Codwyd tâl ychwanegol o 1926 ymlaen, i noddi rhaglen adeiladau baddondai.
Steil Bensaernïol Fodern
Yn ystod bodolaeth Cronfa Les y Glowyr, o 1921 i 1952, adeiladwyd dros 400 o faddondai pen pwll ym Mhrydain. Cynlluniodd adran bensaernïol y Pwyllgor Lles y Glowyr y ffordd fwyaf cost-effeithiol o adeiladu, darparu cyfarpar a gweithredu adeiladau'r baddondai. Roedd 'steil tŷ wedi cael ei datblygu erbyn y 1930au, wedi'i seilio ar ddylunio pensaernïol y 'Mudiad Modern Rhyngwladol'.
Byddai'r toeon fflat, y llinellau glan a'r defnydd helaeth o wydr i ddarparu golau naturiol yn sicrhau bod y baddondai yn amlwg yng nghanol adeiladau eraill y pyllau. Cafodd rhai baddondai, fel yr un yn Big Pit, eu rendro yn wyn, sy'n ei wneud yn nodwedd amlwg ar y bryn hyd heddiw. Golygai adnoddau prin Pwyllgor Lles y Glowyr na adeiladwyd baddondai yn nifer o byllau glo Cymru tan y 1950au. Wedi gwladoli'r diwydiant glo ym 1947, cyfrifoldeb y Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd darparu'r baddondai pen pwll.
sylw - (3)
try to build the solid foundation of the bricks that others have taken, life will not be so hard.
My father (Roy Phillips) was the contracts manager for the Gelli pithead baths consruction in the mid 1950's, would you have the year/years of the start date and it's completion, sadly my dad passed away in 1957.
Kind regards Paul
It would be great if you could help me. I have been trying to establish when pithead baths were put into Bargoed, Pengam and Britannia collieries.I am researching for a book I am writing and it is to check if my memory is correct. I have been told that I used to meet my father from work and even when he was dirty I could identify him. It must have been in the early 1950s. 53 0r 54.
many thanks
Elaine