Hen foddion: Casgliad Materia Medica Amgueddfa Cymru
Mae pob budd neu foddion meddygol bron yn dod o fyd natur. Cafodd un o'r clefydau dynol mwyaf marwol, malaria, ei drin am y tro cyntaf gydag echdynnyn o goeden yn Ne America. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad anhygoel o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd mewn moddion dros y canrifoedd.
Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn casgliad o 469 sbesimen materia medica, rhodd yn 2007 gan yr Athro T. Turner OBE, cyn ddarlithydd yn Ysgol Fferylleg Cymru, Prifysgol Caerdydd. Mae'n cynnwys deunyddiau o blanhigion ac anifeiliaid, megis resin a chwyr, a ddefnyddid yn eu ffurf grai i greu cyffuriau meddygol traddodiadol. Bydd y casgliad o gymorth i ymwelwyr a myfyrwyr sydd am ddysgu mwy am y deunyddiau crai a welir mewn moddion hanesyddol.
Byw neu Farw
Gall maint y cynhwysyn actif ym mhob sbesimen amrywio, ond dyma'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw yn aml. Cai'r cyfansoddion cemegol actif megis alcaloidau, glycosidau neu dannin eu rhyddhau drwy ddistyllu, mwydo neu gnoi y deunydd er enghraifft. Erbyn heddiw, mae nifer o'r cyfansoddion hyn wedi eu hadnabod a'u hynysu ac maent bellach yn cael eu defnyddio yn eu ffurf bur mewn fferylleg fodern.
Cnau Kola a dail Coca
Dyfeisiwyd Coca Cola gan John Pemberton, yn wreiddiol fel moddion patent fyddai'n gweithio fel tonig ac yn gymorth i setlo'r stumog. Dail coca a chnau kola oedd y cyfansoddion. Mae cnau Kola yn uchel mewn caffein, ac er bod cynhwysion eraill yn cael eu defnyddio heddiw, mae caffein yn parhau yn gynhwysyn pwysig mewn Coca Cola.
Cai cneuen Kola Gorllewin Affrica (Cola acuminata) ei chnoi neu ei berwi mewn te ysgogol. Byddai'r ddeilen Coca (Erythroxylum coca), oedd yn hanu'n wreiddiol o ucheldir mynyddoedd yr Andes yn Ne America, yn cael ei chnoi hefyd i leihau teimladau llwglyd neu flinder, ac i wella traul. Credir i'r Asteciaid roi dail coca i'w caethweision i'w helpu i symud cerrig anferth er mwyn adeiladu eu pyramidiau. Defnyddir dail coca gan bobl Periw hyd heddiw i wrthsefyll salwch uchder.
Rhisgl coed i drin malaria
Defnyddiwyd rhai rhisglau at ddibenion meddyginiaethol. Ym Mhrydain, mae'n debyg taw'r mwyaf cyfarwydd yw rhisgl helyg (Salix alba), ffynhonnell asbirin. Mae dail yr helygen hyd yn oed wedi bod o gymorth i ladd poen — roedd Hippocrates yn argymell eu defnyddio yn y flwyddyn 5CC.
Gellir dadlau taw gan risgl y goeden Cinchona mae'r budd mwyaf i ddynolryw fodd bynnag. Mae'r Cinchona yn genws o tua 25 rhywogaeth a welir yn Ne America. Mae'r rhisgl yn ffynhonnell sawl alcaloid, a'r mwyaf cyfarwydd yw'r cyfansoddyn gwrth-falaria a gwrth-dwymyn, cwinin. Mae'r cyfansoddion yma'n amharu ar barasitiaid protosoaidd genws Plasmoidium, sy'n achosi malaria.
Ffa Ffawd: Yr euog sy'n marw, a'r dieuog yn chwydu
Daw'r enw Ffa Calabar (Physostigma venosum) o ardal Calabar yn ne-ddwyrain Nigeria, lle caiff ei ddefnyddio mewn diheurbrawf, yn enwedig mewn achosion o brofi gwrachod — a dyna lle daw ei enw arall Ordeal Bean. Cai'r ffeuen ei malu'n fan a'i rhoi i'r diffynnydd mewn diod. Tybid y byddai rhywun euog yn llymeitian y gymysgedd yn nerfus, fyddai'n achosi marwolaeth sicr. Byddai person dieuog yn llyncu'r ddiod i gyd ar ei phen, fyddai'n ormod i'r stumog, a byddai'n chwydu'r gwenwyn allan yn gyflym. Cymrwyd marwolaeth felly fel arwydd o euogrwydd a chwydu fel arwydd eich bod yn ddieuog.
Canfuwyd ei phriodweddau meddyginiaethol ym 1885 ac mae'n sylfaen i'r cyffur pwysig physostigmine, a ddefnyddir i drin rheolaeth wael o'r bledren, glaucoma a diffyg traul.
Chwilod Chwysigen
Gelwir y chwilod yma yn Cantharides neu Chwilod Chwysigen (Lytta vesicatoria). Drwy wasgu corff y chwilen rhyddheir y cemegyn cantharidin, sy'n ysgogiad ymosodol i groen mamaliaid ac organau mewnol. Canfuwyd ei fod yn gweithio fel affrodisiad drwy achosi llid neu ysgogi'r llwybr wrinol. Mae wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus i annog gwartheg i gyplu hyd yn oed.
Heddiw, fe'i defnyddir mewn dos fach i drin llid y bledren a phoenau eraill y bledren. Gellid ei ddefnyddio hefyd i drin hylif sy'n cronni yn y corff (oedema), yn enwedig yn dilyn y dwymyn goch, camau olaf diabetes a chlefydau'r ymennydd a madruddyn y cefn. Gall fod yn angheuol fodd bynnag, gan achosi llid ffyrnig ar y sustem draul, yn enwedig yr arennau, y bledren a'r llwybr wrinol. Gall ymosod ar yr ymennydd hefyd gan achosi iddo deimlo fel petai'n berwi, gan achosi gwallgofrwydd llym a marwolaeth os na chaiff ei drin mewn da bryd.
Nytmeg
Os oedd planhigyn yr un siâp neu ffurf â rhan o'r corff dynol, arferid credu bod y planhigyn hwnnw yn gwella'r rhan honno o'r corff. Gan fod y nytmeg cyffredin (Myristica fragrans) yn edrych fel ymennydd dynol ar adegau, mae wedi bod yn gysylltiedig â phwerau'r ymennydd a'r meddwl. Derbyniwyd hyn drwy lên gwerin hefyd gan fod gan nytmeg gyfansoddion psychoactif. Mae nytmeg yn cynnwys yr alcaloid myristicin sy'n narcotig a gwenwynig, a gall dos fawr achosi rhithwelediadau, cyfog, chwydu a chwymp cylchredol o fewn 6 awr; gall dos anferth fod yn angheuol.
Mae Nytmeg yn had sy'n endemig i Banda, ynys fwyaf Ynysoedd Sbeis Indonesia. Roedd galw mawr amdano oherwydd ei nodweddion meddygol (credwyd ei fod yn cadw'r pla draw), ac fel arwydd o gyfoeth a golud; byddai person â llond llaw o nytmeg yn y 1600au hwyr yn medru byw yn braf am weddill eu dyddiau. Lladdwyd 6,000 o drigolion Banda yn y rhyfeloedd gwaedlyd dros reolaeth y planhigfeydd nytmeg.
Thwng y 17eg ganrif a chanol yr 20fed ganrif, roedd yr Ynysoedd Sbeis yn gyfan gwbl yn nwylo'r Iseldiroedd. Cadwent bris y sbeis yn uchel yn fwriadol weithiau drwy losgi eu storfeydd nytmeg yn ulw. Ymladdodd Prydain yn galed dros Run, un o'r ynysoedd Sbeis lleiaf, arweiniodd at i'r Iseldiroedd roi Ynys Manhattan i Brydain yn gyfnewid.
Ystyrid nytmeg yn feddyginiaeth ddefnyddiol mewn sawl cymdeithas Asiaidd. Cafodd ei ddefnyddio i drin problemau traul ac fel affrodisiad; honnir ei fod yn gwella asthma ac yn helpu'r galon, ac fe'i defnyddir hyd heddiw fel lleddfolyn.
Coeden Anis
Mae dau fath o Goeden Anis: defnyddir y sbeis Tsieineaidd yn aml (Illicium verum) tra mai Coeden Anis Siapaneaidd (Illicium anisatum) yw'r llall. Mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt wedi iddynt gael eu sychu, ond mae un yn iawn i'w fwyta tra bo'r llall yn wenwynig. Yr unig ffordd i wahaniaethu'n bendant rhwng y ddau yw drwy gynnal arbrawf cemegol neu astudio siâp eu crisialau ocsalad. Mae'r coed yn edrych yn debyg hefyd, felly mae'n hawdd gweld sut y cafodd y ddau sbeis eu cymysgu a'u gwerthu fel bwyd yn y gorffennol.
Mae sawl cyfansoddyn actif mewn coed anis Siapaneaidd sy'n medru achosi llid i'r arennau, y llwybr wrinol a'r organau traul. Mae pobl wedi mynd i'r ysbyty yn arddangos symptomau niwrolegol wedi cael dos ormodol o goeden anis Siapaneaidd neu ddos llai o gynhyrchion wedi'u difwyno gan y ffrwyth. Ceir adroddiadau am achosion o salwch, yn cynnwys effeithiau niwrolegol difrifol megis ffitiau, wedi defnyddio te coeden anis, a hyn o bosib am fod y rhywogaethau Siapaneaidd a Tsieineaidd wedi'u cymysgu.
Defnyddir y Goeden Anis Siapaneaidd yn feddygol i godi gwynt, i leddfu dannoedd ac i symbylu'r arennau a hybu wrineiddio. Mae gan y dail a'r hadau hefyd nodweddion gwrth-facteria.
Sach gastor afanc
Sach gastor Afanc Gogledd America (Castor Canadensis) aeddfed yw'r eitem anarferol hon. Caiff ei hadnabod hefyd fel Ffibr Castor ac mae'n debyg i chwarren anws ci.
Mae'r sach gastor yn dal sylwedd melynaidd o'r enw castoreum, a ddefnyddir gan yr afanc, ynghyd â'i droeth, i farcio'i diriogaeth. Mae pâr o sachau castor gan y gwryw a'r benyw a gedwir mewn gofod o dan y croen rhwng y pelfis a bôn y gynffon.
Yn draddodiadol, defnyddiwyd castoreum i drin hysteria a phoenau mislifol, a bu'n llwyddiannus wrth drin clefyd y galon. Fe'i defnyddir heddiw i ddal afancod, fel lliw mewn persawrau a hyd yn oed fel affrodisiad. Defnyddir symiau bach o gastoreum hefyd i wella blas ac arogl sigarennau.
Gobeithiwn y caiff casgliad materia medica Amgueddfa Cymru ei ymestyn yn y dyfodol ac y caiff bas data o'r cynnwys ei gwblhau a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Mae'r casgliad ar agor i'r cyhoedd, ond drwy apwyntiad yn unig. Cysylltwch ar (029) 2057 3224 neu (029) 2057 3119 cyn ymweld.
Geirfa
Materia Medica
O'r Lladin, yn cyfeirio at ddeunydd meddygol a ddefnyddiwyd o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at yr 20fed ganrif
Pharmacognosy
Term Groegaidd am ddysg cyffuriau. Mae bellach wedi cael ei ddisodli gan Pharmacology (Fferylliaeth).
Herbals
Llyfrau cynnar ar nodweddion meddyginiaethol planhigion a sut y gellir eu medi at ddefnydd meddygol.