Cleddyfau, cyrn a nodau cyfrin
Symbolau a regalia'r Orsedd
Yn ystod y ddwy ganrif ers sefydlu'r Orsedd gyntaf, fe ddatblygodd yn ei seremoniau nifer o symbolau a regalia sydd wedi ychwanegu'n sylweddol at liw a chymeriad yr Eisteddfod.
Yn y seremoni i gyhoeddi y bydd Eisteddfod a Gorsedd yn cael eu cynnal mewn man penodol ar ôl blwyddyn a diwrnod bydd Cofiadur yr Orsedd yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi.
Defnyddiwyd Sgrôl yn 1791 cyn yr Orsedd gyntaf un. Yn y Sgrôl gyntaf hon gwelir nifer o nodweddion sgroliau diweddarach; nodir:
- y flwyddyn a'r tymor;
- ymhle y cynhelir yr Orsedd;
- na fydd 'noeth arf' yn erbyn y beirdd;
- rhai o'r cyswyneiriau a ddaeth yn rhan anhepgor o seremonïau'r Orsedd wedi hynny, megis: 'Yn Llygad Haul, wyneb Goleuni'; 'Duw a phob Daioni'.
Ychwanegwyd y 'Nod Cyfrin' at Sgrôl y Cyhoeddi gan Talieisn ab Iolo yn 1833. Yn 1946 lluniodd yr arlunydd, Meirion Roberts, Sgrôl newydd hardd a rhoddwyd hi i'r Orsedd gan Mam o Nedd. Wrth ei dylunio mewn du, coch ac aur, llwyddodd Meirion Roberts i ymgorffori Cleddyf Mawr a Chorn Gwlad yr Orsedd ac arfbais Tywysogion Gwynedd yn y brif lythyren Geltaidd addurniedig. O amgylch y testun cyflwynodd arfbeisiau tair sir ar ddeg Cymru (cyn 1974); dail derw, mes a draig goch ond nid yw'r Nod Cyfrin ar y Sgrol o gwbl.
Y Corn Gwlad
Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan anhepgor o ddefodaeth yr Orsedd yng nghylch yr Orsedd ac yn arbennig wrth iddynt alw'r buddugwyr i lwyfan y genedlaethol.
Does dim sicrwydd pryd y cynhwyswyd ffanffer Corn Gwlad gyntaf yn y seremonïau ond erbyn yr 1860au roedd 'udganiad yr udgorn' yn rhan 'arferol' o ddefod y Maen Llog.
Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Edward Jones, Maer Pwllheli, Gorn Gwlad arian at ddefnydd yr Orsedd. Yna, yn 1900 nododd Alicia A. Needham, cyfansoddwraig Wyddelig ei bod wedi archebu trwmped arian newydd ag arno faner y ddraig goch. Meddai:
'I know it will look much more dignified and appropriate than the Cornet which was used at Cardiff, and which seemed altogether too modern.'
Cynlluniwyd gŵn a chapan yr utganwr gan Isaac Williams, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1923.
Bu aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig yn utganwyr cyson wedi'r Ail Ryfel Byd ac yn 1947 cyfansoddodd Haydn Morris (Haydn Bencerdd) ffanffer ar gyfer yr amryfal seremonïau. Ers hynny gwasanaethwyd yr Orsedd gan nifer o utganwyr. Erbyn hyn roedd pâr o utgyrn arian o seremoni Goroni'r Frenhines (1953) yn cael eu defnyddio. Cyflwynwyd hwy i'r Orsedd gan Gronfa Goffa y cyn-Arwyddfardd, Sieffre o Gyfarthfa a brodiwyd y banerigau pendant gan Miss Iles, Brynsiencyn.
Y Cleddyf Mawr
Un o ddefodau hynaf yr Orsedd yw seremoni dadweinio'r Cleddyf Mawr yn rhannol. Bydd yr Archdderwydd yn datgan y cyswyneiriau canlynol a'r gynulleidfa yn ateb 'Heddwch' iddynt deirgwaith:
'Y gwir yn erbyn y byd, A oes Heddwch? Calon wrth galon, A oes Heddwch? Gwaedd uwch adwaedd, A oes Heddwch?'
Yr oedd cario cleddyf yn rhan o ddefodaeth Gorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792. Fel heddychwr pwsyleisiai Iolo mai mewn heddwch yr ymgynullai beirdd Gorsedd Ynys Prydain a phan osodwyd cleddyf noeth ar Faen yr Orsedd cynorthwyodd y beirdd oedd yn bresennol i wisgo'r wain amdano fel arwydd o Heddwch yng Ngorsedd. Defod ar wahân oedd yr un lle gelwid allan am 'Heddwch' ar y dechrau ond yn raddol daethpwyd i'w chysylltu â defod y cleddyf.
Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Phillip Yorke o Blas Erddig gleddyf seremonïol a ddefnyddiwyd tan droad y ganrif. Yna, yng Nghaerdydd, 1899, cynlluniodd yr Athro Hubert Herkomer Gleddyf Mawr ar gyfer Gorsedd y Beirdd. Eglurodd symboliaeth y cynllun:
- crisial naturiol y carn yn cynrychioli cyfriniaeth;
- y tair llinell sanctaidd yn cynrychioli'r ymdrech gyntaf i ysgrifennu 'Iehofa';
- y ddraig - i'w gwarchod.
- Ar y wain roedd y cyswyneiriau:
'Y gwir yn erbyn y byd' (cyswynair Gorsedd Beirdd Ynys Prydain)
'Duw a phob Daioni' (Cadair Morgannwg a Gwent)
'Calon wrth Galon' (Cadair Dyfed)
'A Laddo a Leddir' (Cadair Powys)
'Iesu na ad gamwaith' (Cadair Gwynedd).
Dyma'r Cleddyf Mawr a ddefnyddir heddiw.
Y Nod Cyfrin
Y Nod Cyfrin neu y Nod Pelydr Goleuni - symbol /|\ a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli rhinweddau Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd.
Eto, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddefnydd o'r symbol, ond wedi iddo farw daeth yn fwyfwy poblogaidd. Fe'i gwelwyd am y tro cyntaf ar Sgrôl y Cyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833. Erbyn 1850 roedd ar y baneri a welid mewn gorseddau ac o tua 1860 ymlaen ar dystysgrifau urddo aelodau newydd.
Erbyn diwedd y ganrif yr oedd yn symbol cymeradwy ar gyfer Gorsedd y Beirdd ac yn ymddangos ar drefnlenni'i seremonïau, ar y Faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar feini'r Orsedd.
Ers y 1950au penderfynwyd fod yn rhaid cynnwys symbol y Nod Cyfrin ar bob Cadair a Choron genedlaethol.
Baner yr Orsedd
Ymddengys rhyw fath o faner yn nifer o seremonïau gorseddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellir gweld baner syml ag arni 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' mewn darlun o Orsedd Aberhonddu, 1889.
Fodd bynnag, y Faner swyddogol gyntaf oedd yr un a ddyluniwyd gan yr Arwyddfardd, T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, ar gyfer Gorsedd Llandudno yn 1896. Meddai:
'In the upper part is seen the sun symbolising celestial light, bearing upon it the golden dragon, at once a symbol of energy and the badge of Cambrian nationality; from the sun emerge golden rays, three of which are prolonged downwards forming the 'Nod Cyfrin' of the 'Awen'. ... The lower part of the design represents, in symbol, the Gorsedd of the Bards of the Isle of Britain ... Around the 'Maen Llog' are the twelve 'meini gwynion'; ... Upon the 'Maen Llog' may rest a sheathed sword...
Around the Gorsedd Circle are deposited the plants representing the 'Alban' - trefoil, vervain, corn and mistletoe. The whole design is surrounded by a wide decorative border of oak leaves with acorns from which at parts mistletoe arises.'
Mae'r holl ddelweddau ar gefndir o sidan asur a cheir y cyswyneiriau 'Y gwir yn erbyn y byd'; 'Yn Wyneb Haul Llygad Goleuni'; a 'Heddwch' arni mewn aur. Miss Lena Evans (Brodes Dâr) a'i brodiodd ac fe'i noddwyd gan Syr Arthur Stepney, Llanelli.
Erbyn hyn mae'r faner wreiddiol wedi'i hadnewyddu sawl tro ond erys yn ffyddlon i'r cynllun hwn.