Cenedl sy'n anrhydeddu beirdd

Seremoni'r Cadeirio, 2009

Seremoni'r Cadeirio, Eisteddfod Genedlaethol Meifod a'r Cyffiniau, 2009. Nid oedd neb yn deilwng o'r brif wobr y flwyddyn honno.

Cadair Wag Wrecsam, 1876

Cadair Wag Wrecsam, 1876. Roedd yr enillydd, Thomas Jones (Taliesin o Eifion), wedi marw rai wythnosau ynghynt.

Eluned Phillips, enillydd y Goron, y Bala, 1967

Eluned Phillips, enillydd y Goron, y Bala, 1967. Gwyndaf oedd yr Archdderwydd.

Y Prif Lenor, Elfyn Pritchard, enillydd y Fedal Ryddiaith, Dinbych a'r Cylch, 2001.

Y Prif Lenor, Elfyn Pritchard, enillydd y Fedal Ryddiaith, Dinbych a'r Cylch, 2001.

Neb yn deilwng am y Goron, Aberdâr, 1956.

Y Cleddyf Mawr ar draws y gadair - neb yn deilwng am y Goron, Aberdâr, 1956. Yn y llun mae Erfyl Fychan, Arwyddfardd; Trefin, Ceidwad y Cledd; Dyfnallt, Archdderwydd; Cynan, Cofiadur.

Y Cadeirio

Mae seremoni cadeirio'r bardd buddugol am gyfansoddi casgliad o gerddi, awdl neu gerdd mewn cynghanedd gyflawn ar destun arbennig yn un o uchelfannau pasiantri Gorsedd y Beirdd ym mhob Eisteddfod Genedlaethol. Caiff ei chynnal ar ddydd Gwener.

Mae'n seremoni hynafol iawn. Yr oedd yr arfer o gystadlu am gadair yn llys y Brenin eisoes yn hen yng nghyfnod Hywel Dda yn y ddegfed ganrif a phan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ei 'lys yn ardderchog' yn Aberteifi yn 1176, cadair yr un oedd gwobrau'r prif fardd a'r prif gerddor. Yna, tua 1451, yn eisteddfod Caerfyrddin cadeiriau arian a enillwyd a thrachefn yn eisteddfodau Caerwys yn 1523 a 1567. Wedi ail-sefydlu'r mudiad eisteddfodol yn y Bala yn 1789 ennill y Gadair oedd uchelgais pob bardd ond nid oedd seremoni orseddol ynghlwm wrth hyn eto. Yn eisteddfod daleithiol Dyfed / Dinefwr yng Nghaerfyrddin yn 1819 llwyddodd Iolo Morganwg i gysylltu'r mudiad eisteddfodol â defod Gorsedd y Beirdd ac â chadeirio'r bardd buddugol.

Yn 1867 y penderfynwyd neilltuo'r Gadair ar gyfer awdl yn y mesurau caeth a chael Coron am bryddest yn y mesur rhydd.

Cadeiriau Nodedig

Roedd seremoni gadeirio Wrecsam 1876 yn drist a chofiadwy oherwydd roedd y bardd buddugol, 'Eurebius', sef Thomas Jones (Taliesin o Eifion), wedi marw ychydig wythnosau ynghynt. Mewn poster coffa am y digwyddiad anffodus dwedir mai 'A ydyw yr awdl wedi ei danfon yn saff?' oedd ei eiriau olaf un. Ar lwyfan yr ŵyl gwisgodd y Gorseddogion arwyddion galar ac i sain y 'Dead March' gorchuddiwyd y gadair â brethyn du.

Ymhlith y cadeiriau mwyaf arwyddocaol y mae:

  •  
    • Cadeiriau yn arddull yr Adfywiad Celtaidd: 
      Eugene Vanfleteren - Penbedw 1917 (y bardd buddugol - Hedd Wyn) 
      J.Kelt Edwards ac Elias Davies - Corwen 1919 (Cledlyn Davies) 
      Llew Hughes - Barry 1920 (neb yn deilwng)
    • Cadair Wrecsam 1933 - rhodd gan J.R.Jones, Shanghai, brodor o Lanuwchllyn (Trefin)
    • Cadair Bro Dinefwr 1996 gan y Parchedig T.Alwyn Williams o dderw olion Pont Llandeilo a olchwyd ymaith yn llifogydd mawr 1845. Bu'r saer-weinidog farw ychydig oriau wedi cwblhau'r gwaith (R.O.Williams)
    • Cadair arbrofol Sir Benfro a Thyddewi 2002 gan Robert Jones yn llawn symbolau trawiadol megis y ddraenen (Myrddin ap Dafydd).

Y Coroni

Un o'r tair prif seremoni sy dan ofal Gorsedd y Beirdd ar lwyfan y Brifwyl, pan goronir y bardd buddugol am gyfansoddi pryddest neu ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn. Ar ddydd Llun y cynhelir seremoni'r Coroni.

Yn 1867 cyhoeddodd Hwfa Môn oddi ar y Maen Llog: 'bod urdd newydd i gael ei ffurfio i'r Bryddest, a hono yn urdd coronog ...' Erbyn troad yr ugeinfed ganrif yr oedd y patrwm hwn o gadair a choron wedi ymsefydlu.

Disgrifia Eluned Phillips, bardd coronog 1967 a 1983, y profiad o orfod 'Cadw'r Gyfrinach' iddi ennill y brif wobr:

'Gorfu i mi droi'n feudwy absoliwt. Collais o leiaf 12 pwys o gnawd ... Doeddwn i ddim am ddweud celwydd felly rhaid oedd turio o'r goleuni fel gwahadden'. Ac ar y llwyfan ei hun, 'Fedrwn i yn fy myw beidio â cholli deigryn ... Rhaid byw trwy'r profiad cyn amgyffred yr ecstasi eithaf.'

Ers yr 1950au rhaid cynnwys y Nod Cyfrin ymhob cynllun ar gyfer Coron Genedlaethol.

Y Fedal Ryddiaith

Cymer seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor ei lle bellach ar brynhawn Mercher ac mae'n un o brif seremonïau Gorsedd y Beirdd ar lwyfan y Brifwyl.

Yn Eisteddfod Machynlleth 1937 y dyfarnwyd Medal Ryddiaith am y tro cyntaf ac fe'i henillwyd gan J.O.Williams, Bethesda am y gyfrol Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau eraill. Yn 1966 y rhoddwyd i'r gystadleuaeth seremoni safonol gyflawn i ddathlu'r dyfarniad.

Yna, yn Aberystwyth, yn 1992 daeth yn un o seremonïau llawn Gorsedd y Beirdd. Cyflwynir y Fedal am gyfrol o ryddiaith, weithiau ar thema benodol neu mewn cyfrwng penodol megis nofel, dyddiadur neu straeon byrion. Yn union wedi'r seremoni bydd y gyfrol fuddugol ar werth ar faes yr Eisteddfod.

Neb yn Deilwng

Yn achlysurol dyfarna beirniaid y prif gystadlaethau nad oes bardd neu lenor yn deilwng o ennill y wobr genedlaethol. Mewn erthygl yn y National Geographic yn 1965 disgrifiodd yr Awstraliad, Alan Villiers, effaith hyn ar gynulleidfa pafiliwn Llandudno yn ystod defod y Cadeirio yn 1963:

'No event symbolizes more vividly the poetic soul of the Welsh and the unyielding pride and integrity that accompany it than the ceremony of Chairing the Bard. This is the high point of the annual National Eisteddfod. ... The large stage of an enormous prefabricated pavilion was banked with robed bardic dignitaries and the television lights stabbed at them like searchlights.' ... 
Ond wedi dyfarniad y beirniaid Thomas Parry, T.H.Parry-Williams a William Morris, 'No poem submitted was deemed worthy, ... the ritual Chairing of the Bard would not take place. Merit before ritual - no ritual for its own sake! ... The 8,000 still sat there in the huge pavilion, as if they had been stunned. Where else, I thought, would people feel so intensely about poetry?'

Fel arwydd o'r diffyg teilyngdod bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn gosod y Cleddyf Mawr i orffwys ar draws breichiau'r gadair wag lle byddai'r bardd neu'r llenor arobryn wedi eistedd.

 

Y Ddawns Flodau

Heb os dyma un o ddefodau mwyaf poblogaidd seremonïau Gorsedd y Beirdd yng Nghylch yr Orsedd ac ar lwyfan y Brifwyl. Cymer rhyw 24 o ferched oedran ysgol gynradd ran ynddi; gwisgant wisgoedd gwyrddion â blodau'r maes yn eu haddurno a blodau yn goronau yn eu gwalltiau a chariant duswau o flodau. Dawns i gyfleu casglu blodau'r maes yw hi a chyfunir Cyflwyno'r Flodeuged â hi trwy i ddwy o'r dawnswyr ychwanegu'u tuswau hwy at y Flodeuged ei hun.

Eto, defod gymharol ddiweddar yw hi. Yng Ngorsedd Gyhoeddi Machynlleth, 1936 y gwelwyd hi gyntaf a gellir ei phriodoli i ddychymyg y Cofiadur, Cynan ac athrawesau ysgolion cynradd y fro. Nid ymddangosodd y dawnswyr ar lwyfan y Brifwyl tan ddefod y Cadeirio yn Eisteddfod Ystradgynlais, 1954.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Aneirin Karadog
1 Medi 2019, 19:22
Tudalen ddifyr am hanes ein prif ddefodau eisteddfodol. Hoffwn nodi un cywiriad bychan o ran y manylion a nodir o dan y ffotograff cyntaf, sef taw yn y Bala yr ataliwyd y Gadair yn 2009(Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau), nid ym Meifod. Enillwyd Cadair Meifod 2003 gan Twm Morys ac yna Hywel Griffiths pan ddychwelodd yr Eisteddfod i Feifod yn 2015. y Tro arall yr ataliwyd y wobr o ran y Gadair yn y ganrif hon oedd 2013, yn Ninbych.
Richard Edwards
4 Hydref 2018, 14:41

Hello,

Thank you for your comment. I will forward it on to the relevant curator.

Best Wishes

Richard

Digital Team

 

 

pbhj
1 Hydref 2018, 23:16
>"The custom of competing for a chair in the King's court was already well-established in Hywel Dda's time in the tenth century and when the Lord Rhys 'held his court excellently' in Cardigan in 1176, the prize for the chief poet and chief musician was a chair each. Then, in c.1541, silver chairs were awarded at the Carmarthen eisteddfod and once more at the Caerwys eisteddfodau in 1523 and 1567."

It would have been nice to cite the sources for this; and explain why it relates at all to the rest of the article about the pantomime that Edward Williams made up?

Presumably the "Nation" in the first part is Wales, so how does the ruler of Deheubarth who has accepted a role subordinate to the principle English King relate to that? "Lord Rhys" even called himself a prince, so why the talk of kings?

You're seemingly playing fast and loose with British history to appeal to the mores of Welsh nationalists. It's unbecoming of a museum.