Durga

Y Dduwies Durga yn barod ar gyfer y Puja

Am dair wythnos yng ngwanwyn 2009 yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, bu dau artist o India yn creu delweddau prydferth o’r Dduwies Durga a’u theulu. Fesul wythnos trawsffurfiwyd deunyddiau syml fel clai, papier mache, gwellt a phren yn gelfydd i greu cerfluniau manwl - pob un ohonynt â’u symbolau a’u hystyron eu hunain. Fe’u gwnaed ar gyfer Pwyllgor Puja Cymru - grŵp Hindŵaidd sydd wedi addoli yng Nghymru ers y 1970au. Gan fod eu delwedd o’r Dduwies Durga yn hen a threuliedig roedd angen un newydd arnynt.

Durga yw’r Fam-dduwies anorchfygol, sy’n marchogaeth i’r frwydr ar gefn llew. Fe’i crëwyd gan y Duwiau pan oedd drygioni’n bygwth y Bydysawd. Hi yw ‘Shakti’ y pŵer dwyfol i wrthsefyll, amsugno ac ymladd pwerau’r fall. Trwy gydol yr addoli, a elwir yn Puja, mae Hindŵiaid yn dathlu buddugoliaeth Durga dros ddrygioni.

Fe’i gwelwch yma yn ei holl brydferthwch yn arddangos cryfder, cynhesrwydd a chariad mamol. Saif yn falch ar gefn llew wrth iddi ladd Brenin y demoniaid, Mahisasura. Gyda hi mae ei dau fab, Ganesh a Kartikeya, a’i dwy ferch, Lakshmi a Saraswati.

Deuai’r ddau artist llwyddiannus - Purnendu a Dubyendu Dey - o Kolkata, India. Trwy gydol y broses o greu dilynwyd defodau crefyddol arbennig. Y pwysicaf ohonynt oedd Chakkshu Daan – Paentio’r Llygaid. Daeth Purnendu â Durga’n fyw drwy beintio’i llygaid yn ofalus. O’r pwynt hwn ymlaen addolir delwedd o’r Dduwies fel petai ganddi’r holl bwerau a roddodd y Duwiau iddi.

Mae’r Pujas yn cychwyn ar chweched diwrnod Navaratri, sef y naw noson o ddefodau i’r Dduwies Durga, gyda chroeso i’r Dduwies a’i theulu. Caiff mantrâu eu llafarganu yn Sansgrit, a chyflwynir offrymau i erfyn am fendith y Dduwies wrth ymladd drygioni.

Ar ôl naw niwrnod, daw’r Dushera, y diwrnod olaf. Dyma’r diwrnod i ffarwelio â’r Fam Dduwies a’i theulu. Yn India, fe’u dodir yn nyfroedd yr afon Ganges, gyda’r gobaith o’i chroesawu’n ôl y flwyddyn ganlynol. Yng Nghymru, fe’u storir yn ofalus ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Dr. S. K. Sharma & Mrs. Sharada Sharma
26 Tachwedd 2017, 13:58
We watched the whole event and it was breath taking that how an artist can make an image out of natural elements water,earth,fire,air and light. And eyes are so important that will put life into it. When we worship we feel life in image (Pratima).

(That’s why eyes are focused when you take a photograph. )

Kausik Mukherjee
26 Tachwedd 2017, 09:20
Amazing work!
Beautiful idol!
I know how much time, effort and planning went behind this creation.
Thanks to Museum of Wales for facilitating this project
Sandip Raha
26 Tachwedd 2017, 09:15
We were closed involved in this project
(Wales Puja committee) and had a superb experience working with Museum staff and their enthusiasm. Especially Sioned and Nia.