Awyrfeini Darnau o graig naturiol o'r gofod sy'n syrthio i'r ddaear yw gwibfeini. Wrth iddynt basio drwy'r atmosffer mae'r ffrithiant yn cynhesu'r haenau allanol gan achosi iddynt ddisgleirio'n llachar. Dyma sy'n gyfrifol am ffenomen y sêr gwib. Mae rhai gwibfeini cyn hyned â, neu'n hynach na'r Ddaear. Mae eu cyfansoddiad cemegol yn cynnwys gwybodaeth am hanes cynharaf cysawd yr haul, a gall roi cliwiau i ni am y ffordd y cafon nhw, a'n daear ni, eu creu. Daw'r detholiad delweddau isod o gasgliad gwibfeini Amgueddfa Cymru — cliciwch ar ddelwedd i ddarganfod mwy. Meteorites Haearn-carregog, palasit (PAL) Lleoliad: Talaith Somervell, Texas, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Haearn, grŵp IIIA Lleoliad: Mynyddoedd Sacramento, Talaith Eddy, New Mexico, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i ysgythru ag asid i ddatgelu ei streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten - Cedwir y sbesimen mewn bag aerglos i gadw'r haearn rhag ocsideiddio yn y lleithder atmosfferig Haearn, grŵp IA Lleoliad: Odessa, Talaith Ector, Texas, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Torri ac ysgythru-asid i ddatgelu'r streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten — Cedwir y sbesimen mewn bag aerglos i gadw'r haearn rhag ocsideiddio yn y lleithder atmosfferig. Haearn, grŵp IIIAB Lleoliad: Cape York, Greenland, Gogledd America. Gorffeniad: Torri ac ysgythru-asid i ddatgelu'r streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten Condrit, enstatit (E6) Lleoliad: Happy Canyon, Talaith Armstrong, Texas, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i sleisio Condrit, olifin-hypersthene (L5) Lleoliad: Taiban, Talaith De Baca, New Mexico, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Haearn, octahedrit IIB Lleoliad: Talaith Arforol, Rwsia. Cofnodwyd y gwymp am 10:38 am ar 12 Chwefror 1947 mewn coedwig drwchus ym Mynyddoedd Sikhote Alin, 40km o Novopoltavka. Canfuwyd 106 o dyllau gwrthdrawiad, y mwyaf ohonynt yn 28m Condrit, olifin-bronsit (H5) Lleoliad: Beddgelert, Eryri, Gwynedd. Gorffeniad: Atgynhyrchiad Haearn-carregog, palasit (PAL) Lleoliad: Krasnojarsk, Yeniseysk, Krasnoyarskiy Kray, Rwsia. Haearn-carregog, mesosiderit (MES) Lleoliad: Estherville, Emmet, Iowa, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Haearn, grŵp IIIF Lleoliad: Talaith St Genevieve, Missouri, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i ysgythru ag asid i ddatgelu ei streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten Tektit-indochinit Lleoliad: Samrong, Cambodia, Asia. Tektit-indochinit Lleoliad: Gwlad y Tai, Asia. — Mae'r dull darganfod a'r union leoliad yn anhysbys. Acondrit, Ca-poor, Urelite (AURE)Lleoliad: Kenna, Talaith Roosevelt, New Mexico, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Slab wedi'i dorri a'i lathru Condrit (H4) Lleoliad: Weldona, Talaith Morgan, Colorado, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Gwibfaen Haearn Lleoliad: Gibeon, Namibia, Affrica. [Darn mawr o wibfaen haearn a syrthiodd yn Gabon, Nambia (a ddarganfuwyd ym 1836)] Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.