Ail-greu bywyd y Gymru gynnar
Isod mae detholiad o luniau artistiaid o olygfeydd o fywyd bob dydd yng Nghymru. Mae'r delweddau'n amrywio o'r cyfnod Paleolithig, pan ddaeth pobl i Gymru am y tro cyntaf, hyd at y Goncwest Rhufeinig. Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl.
Ail-greu bywyd y Gymru gynnar
Amffitheatr Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy; gan J. A. Wright, 1928. Cloddiwyd ym 1926-27, mae Wright yn dangos yr amffitheatr yn hwyr yn y ganrif gyntaf OC. Ar y pryd hwn credid i'r awditoriwm gael ei gynnal gan fanc o dir a gynhaliwyd gan welydd o gerrig nadd.
Tref Rufeinig Caer-went, Sir Fynwy. Ailgread dychmygol o'r eglwys ol-Rufeinig tebygol; gan Alan Sorrell, 1938. Mae ailgloriannu diweddar o'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r adeilad o gyfnod is-Rufeinig, ond yn fwthyn ol-ganoloesol.
Tref Rufeinig Caer-went, Sir Fynwy. Ailgread dychmygol o ymosodiad ar gornel dde-orllewinol o'r dref; gan Alan Sorrell, 1938.
Fforwm-basilica Rhufeinig yng Nghaer-went, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1955.
Teml Rufeino-Geltaidd, tref Rufeinig Caer-went, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1955. Ail gloddiwyd y deml ym 1908.
Tref Rufeinig Venta Silurum (Caer-went), Sir Fynwy, yny 4edd ganrif OC; gan Alan Sorrell, 1937. Wedi'i seilio ar gynllun o'r dref a ddarganfuwyd wedi cloddio ar raddfa fawr yn ystod yr 20fed ganrif gynnar.
Fila Rhufeinig Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, fel yr edrychai o bosibl yn y 4edd ganrif OC; gan Paul Hughes, tua 1980.
Fila Rhufeinig Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg; gan Alan Sorrell, 1949. Y fila, fel y dangosir, yn dyddio yn ôl hyd 4edd ganrif gynnar OC.
Barics ac adeiladau eraill yng nghornel orllewinol caer y lleng Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy, yn yr ail ganrif OC; gan Alan Sorrell, 1939. Mae'r ailgread yma'n dangos un gornel o'r barics yng Nghae Prysg, sydd wedi'i osod allan i'r cyhoedd ei weld.
Amffitheatr Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy, yn y ganrif gyntaf OC; gan Alan Sorrell, 1939. Mae'r olygfa hon yn benthyg oddi wrth ailgread gan J. A. Wright (1928), ond mae'n dangos mwy o weithgarwch a manylion yn aradl yr amffithetar.
Caer y lleng Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy, yn yr ail ganrif OC; gan Alan Sorrell, 1939.
Olwyn ddraenio yng nghloddfa aur Rufeinig Dolaucothi, Sir Gaerfyrddin; gan Paul Hughes, tua 1980.
Porth gorllewinol Caer-went Rufeinig, Sir Fynwy; gan Tony Daly, 1996.
Baddonau'r Gaer, Caerllion, Sir Fynwy, fel y gallasant fod wedi ymddangos tua OC 80; gan Paul Jenkins, tua 1988.
Annedd brodorol Cefn Graeanog, Gwynedd, yn y 4edd ganrif OC; gan Paul Hughes, tua 1980.
Y prif fynediad i fryngaer Oes yr Haearn yn Llanmelin, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1940.
Y porth dwyreiniol o fryngaer Twyn-y-Gaer, Cymyoy, Sir Fynwy, 3edd ganrif CC; gan Paul Hughes, about 1980.
Offrymu ger llyn scysegredig. Selir y cerbyd olwyniog ar ddarganfyddiadau o dramor ac engrafiadau ar greigiau. Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf, tua 650 BC; gan Paul Hughes, tua 1980.
Bryngaer Moel-y-Gaer, Rhosesmor, Sir Ddinbych, 4edd ganrif CC; gan Paul Hughes, about 1980.
Claddedigaeth o'r Oes Efydd tua 2,000 CC: yr eneiniad olaf ynh Ngharn Pwll, Coety, Bro Morgannwg; gan Alan Sorrell, 1940.
Claddedigaeth wrth gylch cerrig tua 1,750 CC wedi'i seilio ar Gylch y Derwyddon, Penmaenmawr, Gwynedd; gan Paul Jenkins, tua 1980.
Paratoad bedd saethwr o'r Oes Efydd, yn seiliedig ar ddarganfyddiadau o'r beddrod crwn yn Nhwyni Breach yn Fferm Breach, Llanfleddian, Bro Morgannwg tua 2,000-1,500 CC; gan Paul Jenkins, tua 1980.
Tywysoges 'Beaker' yn gwisgo cilgant aur o Lanllyfni, Gwynedd (tua 2,000 CC); gan Paul Jenkins, tua 1980.
Bryngaer Breiddin o'r Oes Efydd ger y Trallwng, Powys 1,000 CC; gan Paul Jenkins, tua 1980.
Rhyfelwyr 'Beaker' o'r Oes Efydd tua 2,500 CC; gan Paul Jenkins, tua 1980.
Deiliaid y Cleddyfau Cyntaf, ymladdwyr o gyfnod Penard tua 1,100 BC; gan Paul Jenkins, tua 1980.
Gweithiwr metel o'r Oes Efydd ddiweddar tua 800CC; gan Paul Jenkins, about 1980.
Gweithiwr o'r Oes Efydd cynnar ('Beaker') tua 2000 CC; gan Paul Jenkins, about 1980.
Gwneud crochenwaith yn yr Oes Efydd (tua 1, 750 CC); gan Paul Jenkins, tua 1980.
Anheddiad ffermio tua 4,000 CC, gan Giovanni Caselli, 1979; Wedi'i seilio ar gloddiadau yng Nghlegyr Boia, Tyddewi, Sir Benfro, ym 1902 a 1943.
Siambr beddrod Neolithig Tinkinswood, Sain Niclas, Bro Morgannwg gan Alan Sorrell, 1940; Ailgread o olygfa gladdu yn y siambr gladdu Neolithig (tua 4,000-3,500 CC).
Barclodiad y Gawres, Ynys Môn, gan Paul Jenkins, tua 1980; Defod mewn bedd cyntedd Neolithig, tua 3,000 CC.
Hela a physgota yn Nab Head, Bae Sain Ffraid, Sirn Benfro, tua 8,400 CC; Gan Giovanni Caselli, 1979.
Anheddiad ogof Dyn Neanderthal, tua 70,000 CC; gan Gino D'Achille, tua 1980. Wedi'i seilio ar gloddiadau yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych.
Golygfa o helfa, Pen-y-lan, Caerdydd, tua 250,000 CC; gan Gino D'Achille, tua 1980.
Y gladdedigaeth ddefodol yn Pavilan Cave, Gŵyr; gan Gino D'achille, tua 1980. Crëwyd y paentiad yma pan y credwyd mai Aurignacaidd oedd o ran dyddiad (35-28,000 mlynedd yn ôl).
sylw - (3)
Hi there Frances,
Thanks for your enquiry. Please contact our Image Licensing Officer for more information about copyright and licensing - I will email over the details now.
Sara
Digital Team